Lluniau Dydd Mercher: Sioe Môn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Môn yn un o'r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o filoedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.
Eleni roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 12-13 Awst, ac fe anfonodd Cymru Fyw y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald) i'r sioe i ddal rhywfaint o'r golygfeydd.
Dyma luniau dydd Mercher o'r sioe.

Teulu Hughes o Lanbabo gyda phencampwyr grŵp y sioe

Bethan Young o Gwm y Glo a phencampwr y Shetland bach

Arfon Williams a'i fab Owen gyda phencampwr bîff y sioe

Melfyn Williams a'i fab Joe o Frynsiencyn oedd pencampwyr y defaid gyda'i dafad North Country Cheviot

Tegwyn Jones o Lantrisant yn ennill gyda'r categori pencampwr masnachol

Roedd byrgyrs cig eidion o'r safon uchaf yn cael ei weini gan y criw yma

Ioan Roberts o Lannerch-y-medd oedd pencampwr y gwartheg duon a phencampwr Ynys Môn

Cadi Glyn o Lanfachraeth ddaeth yn gyntaf â'i dafad Bryniau Ceri

Eirian Wyn Williams o Gaerwen gafodd gyntaf â'i cheffyl Cymreig

Alwyn Davies o Bencadair a'i bencampwr adran gwartheg yr ucheldir

Morfudd Davies o Landdaniel enillodd prif wobr yr adran flodau

Alun Roberts o Langoed gyda Fuchsia gorau y sioe. Roedd yn ddiwrnod da i Alun a gipiodd wyth o wobrau cyntaf

David Gerrard o Bensarn gyda'i arddangosfa blodau o'r Urdd, yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Fôn yn 2026
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.