13 o blant wedi'u hanafu ar ôl digwyddiad yn ffair Porthcawl

Coney Beach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardal

  • Cyhoeddwyd

Dywed y gwasanaethau brys nos Fercher eu bod yn ymateb i ddigwyddiad sy'n ymwneud â reid ym Mharc Pleser Traeth Coney ym Mhorthcawl.

Mae'n ymddangos bod plant ymhlith y rhai a oedd ar reid sy'n cael ei galw Wacky Worm yn ystod y damwain.

Mewn lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol mae oedolion i'w gweld yn helpu nifer o blant oddi ar y reid.

Dywedodd Heddlu'r De nos Fercher bod 13 o blant ac un oedolyn wedi dioddef mân anafiadau, gyda rhai wedi mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Mae'r llu wedi cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardal. Bydd y parc ar gau dydd Iau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran Parc Pleser Traeth Coney: "Wedi digwyddiad ar reid na sy'n eiddo i Draeth Coney – ond i gwmni arall – ry'n wedi cael gorchymyn gan yr heddlu i glirio'r safle ar gyfer ymchwiliad pellach.

"Ry'n yn ymddiheuro am unrhyw amhariad ac fe fydd ymwelwyr yr effeithiwyd arnynt yn cael arian yn ôl cyn gynted â phosib.

"Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar sut i hawlio ad-daliad yn fuan."

Pynciau cysylltiedig