Sioe Môn: 'Diffyg cynnyrch lleol mewn prydau ysgol yn rhwystredig'

Eifion Huws ar faes y Sioe Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ar faes y sioe brynhawn Mercher dywedodd Eifion Huws, aelod oes o Undeb Amaethwyr Cymru, bod y sefyllfa bresennol yn "rhwystredig iawn"

  • Cyhoeddwyd

Ar faes Sioe Môn mae galw wedi bod ar y cyngor sir i wneud mwy i sicrhau bod bwyd sy'n gael ei weini mewn ysgolion yn dod o ffynonellau lleol

Ers 2021 mae cwmni Chartwells wedi bod yn darparu'r prydau dyddiol yn ysgolion cynradd ac uwchradd yr ynys.

Fe wnaeth dyfodiad y cytundeb pum mlynedd, sydd werth £8 miliwn, olygu bod prydau ysgol yn costio 30c y dydd yn llai na'r drefn flaenorol o dan gwmni Caterlink.

Ond er fod y cyngor yn dweud bod 33% yn dod o ogledd a chanolbarth Cymru, mae rhai amaethwyr lleol yn dweud y dylai'r ffigwr fod yn lawer uwch.

Ar ail ddiwrnod Primin Môn dywedodd Eifion Huws o Fodedern, aelod oes o Undeb Amaethwyr Cymru, bod y sefyllfa bresennol yn "rhwystredig iawn".

"Maen nhw'n lluchio ffigyrau aton ni ond 'da ni'm yn cael gwybod beth ac o le [mae'r bwyd yn dod]," meddai.

Cinio ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Chartwells sydd â'r cytundeb i ddarparu prydau ysgol Môn ers 2021

"Bwyd lleol i mi fysa Sir Fôn neu gogledd Cymru, neu beth bynnag Cymru gyfan, a'n bod ni'n cael y cynnwys i gyd o Gymru.

"Ond dydi hynna ddim yn gweithio iddyn nhw nacydi?

"Gosa da ni'n gallu cefnogi firms lleol mae'n ddrwg iawn arnon ni dydi?

"Un o brif gryfderau'r cyngor i fod ydi cefnogi amaeth a phwy sy'n cynhyrchu'n lleol, dim dros y ffin a dros y dŵr."

'Cadw'r bunt yn lleol'

Ond yn ôl Cyngor Môn mae'r cytundeb yn nodi ei fod yn ofynnol i Chartwells i leihau milltiroedd bwyd a'r ôl troed carbon "yn barhaus cyn belled ag y bo'n ymarferol".

Mae hefyd yn gofyn am sicrhau o leiaf 30% o gynnyrch lleol (sef o fewn radiws o 60 milltir o Ynys Môn), yn ogystal â defnyddio cyflenwyr lleol o Fôn "o fewn cyfyngiadau deddfwriaethol, ariannol ac ymarferol".

Mae Menter Môn yn gweinyddu prosiect Larder Cymru, sef hwb bwyd a diod sy'n dwyn ynghyd cynhyrchwyr a phroseswyr o Gymru.

Y gobaith wedyn yw eu bod mewn gwell sefyllfa i ymateb i gyfleoedd i gyflenwi'r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae 'na fudd i'r economi leol os oes modd cael y cynnyrch yma o gynhyrchwyr lleol yng Nghymru.

"Mae'n cadw'r bunt yn lleol a'r buddsoddiad yng Nghymru, felly'r nod ydi gwella'r economi drwy brynu'n lleol."

Dafydd Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Gruffydd: "'Da ni yn gweld pethau'n newid dros y flwyddyn neu ddwy nesa"

Ond tra fod Menter Môn yn gweithio gyda phedair sir ar draws y gogledd, dywedodd fod y darlun "yn gallu amrywio o le i le".

Gan gyfeirio'n benodol at Gyngor Môn, ychwanegodd "bod y cyngor sir yn gefnogol".

"Mae 'na gytundeb allanol ond mae'r gwaith wedi cychwyn hefo ysgolion cynradd a da ni yn ceisio sicrhau bod na gynnyrch lleol ar fwydlenni ysgolion uwchradd i ddod," meddai.

"'Da ni yn gweld pethau'n newid dros y flwyddyn neu ddwy nesa'.

"Mae o jyst yn gwneud synnwyr yn hytrach na mewnforio'r holl fwyd o dramor."

'Monitro'r cytundeb'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn bod Chartwells "yn prynu'n uniongyrchol gan ffermwyr a thyfwyr" ac y gwneir 88% o'u prynu fel hyn.

"Er mwyn monitro'r cytundeb, rydym yn gofyn am restr o gyflenwyr a chanran o wariant lleol yn chwarterol.

"Ers i'r cytundeb gychwyn ym Medi 2021, gallwn gadarnhau bod Chartwells wedi cydymffurfio a bod y canran diweddaraf, sef canran y gwariant ar gyflenwyr lleol o fewn 60 milltir o ganol Ynys Môn rhwng Mawrth a Mai, yn 33%."

Ychwanegon nhw bod yn rhaid i'r holl fwydlenni gwrdd â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion, ac bod bwydlenni ysgolion Môn wedi derbyn y gymeradwyaeth safon aur ers mis Ebrill 2023.

"Rydym ni fel awdurdod o'r farn ei bod yn bwysig bod y cig a ddefnyddir yn gig o ansawdd da ac yn gig o Gymru pan fo hynny'n ymarferol bosib.

"Mae'r fwydlen yn cynnwys cig coch ddwywaith o fewn y fwydlen tair wythnos, ond mae mwyafrif y cig ar y fwydlen yn gig gwyn."