Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Watford
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi symud i fyny i'r ail safle yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Watford o 2-1.
Sgoriodd Jamal Lowe ddwy gôl i sicrhau'r triphwynt yn erbyn Watford - sydd hefyd yn brwydro am ddyrchafiad eleni.
Tom Cleverley roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Abertawe gymryd rheolaeth ac unioni'r sgôr drwy Lowe.
Daeth ail gôl yr asgellwr a'r Elyrch ar ôl iddo benio i'r rhwyd o groesiad Korey Smith.
Fe wnaeth Watford wella yn hwyr yn y gêm gan greu cyfleoedd i gipio pwynt, gyda'r cyfle gorau'n cael ei wastraffu gan Troy Deeney.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe'n ail, pedwar pwynt y tu ôl i Norwich.