Rygbi: Prif hyfforddwr y Gleision yn gadael y rhanbarth
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Gleision Caerdydd, John Mulvihill wedi gadael ei rôl gyda'r rhanbarth.
Collodd y Gleision 17-3 gartref i'r Gweilch yn y darbi Dydd Calan - eu chweched colled mewn 11 gêm y tymor hwn.
Clywodd y chwaraewyr nad oedd Mulvihill ar gael yr wythnos hon am resymau personol, cyn y gêm gartref yn erbyn y Scarlets ar 9 Ionawr.
Yr hyfforddwr amddiffyn Richard Hodges sydd wrth y llyw ar gyfer y gêm Pro14 yr wythnos hon.
Mae Gleision Caerdydd wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn ag ymadawiad Mulvihill.
Bydd cyn-fewnwr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, Dwayne Peel, yn ymuno â staff hyfforddi'r Gleision yr haf nesaf o Ulster.
Fe gafodd Peel ei benodi yn uwch hyfforddwr cynorthwyol ar gyfer tymor 2021-22, a ef fydd yn gyfrifol am yr ymosod.
Cafodd Mulvihill ei benodi ym mis Mawrth 2018 i olynu Danny Wilson, a daw ei ymadawiad yn ystod ei drydydd tymor wrth y llyw.
Mae gan y gŵr 55 oed o Awstralia dros 20 mlynedd o brofiad yn hyfforddi ar y lefel uchaf, gan gynnwys cyfnodau fel prif hyfforddwr cynorthwyol yn Awstralia a Japan.
Mae hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â chyn-brif hyfforddwr Wallabies Alan Jones fel hyfforddwr amddiffyn a chefnwyr i'r Barbariaid, ond hon oedd y rôl prif hyfforddwr parhaol gyntaf iddo ymgymryd â hi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018