Dim cosbau am yrru dros y terfyn 50mya ar rannau o brif ffyrdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 50myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyd y terfynau i leihau allyriadau nitrogen deuocsid o gerbydau

Nid oes unrhyw ddirwyon wedi eu rhoi i yrwyr am oryrru y tu hwnt i'r terfyn 50mya ar bum darn o brif ffyrdd a thraffordd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y terfynau dros dro ym mis Mehefin 2018 i dorri lefelau nitrogen deuocsid ac fe'u gwnaed yn barhaol yn 2019.

Bydd hysbysiadau cynghori yn dechrau cael eu rhoi i bobl sy'n goryrru er mwyn esbonio'r rhesymau dros y terfyn 50mya.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai hwn yw'r "ail gam" o "hyrwyddo cydymffurfiaeth", ar ôl cyfnod o fonitro.

Dywedodd yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, Break, eu bod yn "annog gorfodaeth fwy llym".

Bydd penderfyniad y gweinidog trafnidiaeth Ken Skates i gyhoeddi llythyrau cynghori yn berthnasol i'r ffyrdd canlynol, lle cyflwynwyd y cyfyngiadau 50mya i leihau allyriadau:

  • Cyffordd 41 yr M4 i Gyffordd 42, Port Talbot;

  • M4 Pont Ffordd Beaufort / Ffordd Rembrandt i Gyffordd 26, Casnewydd;

  • Cyfnewidfa A470 Upper Boat i Gyfnewidfa Stryd y Bont, Pontypridd;

  • Cyffordd 5 yr A483 i Gyffordd 6, Wrecsam; ac

  • Yr A494 ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr i Gyfnewidfa Parc Dewi Sant, Glannau Dyfrdwy.

Esboniodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru mai "Llywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am reoli'r systemau camerâu ym mhob terfyn 50mya amgylcheddol yn ardal Heddlu De Cymru ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

"Mae GanBwyll yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod â'r cynlluniau dan reolaeth GanBwyll.

"Yn y cyfamser felly, ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiad o fwriad i erlyn am oryrru o fewn y systemau camerâu hyn gan GanBwyll."

Cadarnhaodd GanBwyll - "Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru" - nad oedd "wedi cyhoeddi unrhyw hysbysiad o fwriad i erlyn am oryrru ar gyfer y systemau camerâu 50mya amgylcheddol hyn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r M4 trwy Port Talbot yn un o'r darnau sydd â therfyn cyflymder 50mya rhwng dwy gyffordd

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio torri lefelau nitrogen deuocsid ar ffyrdd lle maen nhw uwchlaw terfynau cyfreithiol.

Roedd yr Uchel Lys wedi gorchymyn i weinidogion weithredu ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd targedau'r Undeb Ewropeaidd ar lygredd aer.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd gan yr hysbysiadau cynghori "bwyslais cryf ar ddarparu arweiniad ynglŷn â'r rhesymau dros y gostyngiad yn y terfyn cyflymder (buddion iechyd cyhoeddus trwy ostyngiadau mewn lefelau nitrogen deuocsid)".

Esboniodd fod "dull graddol o hyrwyddo cydymffurfiad â'r terfynau cyflymder 50mya wedi'i gymryd - cyhoeddi hysbysiadau cynghori yw'r ail gam.

"Mae'r heddlu wedi bod yn gorfodi'r cyfyngiadau cyflymder ar y ffyrdd hyn lle mae ymddygiad / cyflymderau gyrwyr yn cael eu hystyried yn beryglus.

"Bydd y dull partneriaeth graddol hwn yn sicrhau bod y lleiafrif bach o yrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn cael cyfle i wneud hynny cyn i unrhyw sancsiynau gael eu gweithredu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gosb leiaf am oryrru fel arfer yw dirwy o £100 a thri phwynt cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded.

Dywedodd Joshua Harris o'r elusen diogelwch ar y ffyrdd Break eu bod "yn cefnogi terfynau 50mya Llywodraeth Cymru, i wella ansawdd aer a diogelwch ar y ffyrdd ond rydym yn annog gorfodaeth fwy llym.

"Mae torri'r terfyn cyflymder yn drosedd a hyd nes y bydd trosedd ar y ffyrdd yn cael ei thrin fel troseddau go iawn, ni fyddwn byth yn gwella diogelwch ar y ffyrdd."

Ym mis Ionawr 2018, fe ildiodd Llywodraeth Cymru achos llys a ddygwyd gan y grŵp ymgyrchu amgylcheddol Client Earth a ddywedodd fod gweinidogion wedi methu â chyrraedd targedau'r UE i dorri llygredd.