Diffyg cynllun llygredd aer yn 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gweision sifil yn mynd ati i lunio cynlluniau i daclo llygredd yr aer ar ôl i Lywodraeth Cymru gyfaddef yn yr Uchel Lys ei fod yn anghyfreithlon i beidio â chael un.
Roedd grŵp amgylcheddol ClientEarth wedi mynd i'r llys gan wyntyllu pryderon am "lefelau anghyfreithlon nitrogen deuocsid mewn trefi a dinasoedd a hynny'n bennaf o gerbydau disel".
Ddydd Iau fe wnaeth bargyfreithiwr ar ran Llywodraeth Cymru gyfaddef ei fod yn anghyfreithlon i beidio â chael cynllun i ddelio gyda'r broblem.
Penderfynodd ClientEarth beidio â pharhau gyda'r achos yn erbyn Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr ClientEarth, James Thornton fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn bod eu diffyg gweithredu yn y maes yn anghyfreithlon.
"Mae'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod mynd a nhw i'r llys er mwyn iddynt gyfaddef hyn ac er mwyn ymgymryd i lunio cynlluniau er mwyn rhwystro pobl Cymru rhag anadlu aer sydd wedi ei lygru."

Dywedodd bargyfreithiwr Llywodraeth Cymru y byddai gweinidogion yn cydweithio gyda ClientEarth er mwyn llunio cytundeb cyfreithiol ar y mater.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo" i wella safon yr aer dros Gymru.
Ychwanegodd llefarydd bod cynllun diweddar i wella ansawdd yr aer yn cydweithio gydag awdurdodau lleol a'r ganolfan fonitro genedlaethol.
Yn y cyfamser mae achos tebyg, eto gan ClientEarth, yn erbyn Llywodraeth y DU yn parhau.
Dywedodd Kassie Smith QC, ar ran Llywodraeth y DU, nad yw'r cyhuddiad yn un teg gan fod gwaith eisoes yn cael ei wneud yn y maes er mwyn gwella ansawdd aer mewn trefi a dinasoedd.