Gwaith bragu cwrw Brains yn debygol o symud i Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr y cwmni bragu SA Brain wedi cadarnhau bod proses ymgynghori wedi dechrau ynghylch hyd at 80 o ddiswyddiadau posib, a bod y cwrw Cymreig yn debygol o symud i Loegr.
Cyhoeddodd y cwmni ym mis Rhagfyr y bydd cwmni Marston's yn rheoli 156 o dafarndai Brains yng Nghymru.
Dywedodd Alistair Darby fod y pandemig wedi bod yn ddinistriol iawn i'r busnes, a bod ymgynghori "anochel" wedi dechrau mewn cysylltiad â "chau'r tîm gweithredol canolog a'r bragdy, gan na fyddai'n gynaliadwy yn economaidd mwyach".
Ychwanegodd: "Y peth pwysicaf yw bod y teulu'n dal gafael ar berchnogaeth y cwrw a'r brand."
"Rhaid i ni ddyfalu sut i barhau â'r brand, sy'n bwysig iawn i Gymru ac mae'n debygol y bydd angen i ni ddod o hyd i leoliad newydd. Os yw'n cael ei fragu unrhyw le arall, rhaid iddo fod o'r safon uchaf."
'Rydym oll yn yr un cwch'
Dywedodd Mr Darby bod hi'n "rhyfeddol" bod y cytundeb gyda Marston's wedi diogelu 1,300 o swyddi, ond bydd yna 30 diwrnod o ymgynghori ynghylch y gweddill. Hefyd mae yna drafodaethau ynghylch amodau a thelerau newydd staff sy'n ymuno â gweithlu Marston's.
"Rwyf wedi bod yn agored gydol yr holl broses," meddai Mr Darby. "Cysur bach yw hwn, ond mae'n effeithio ar bawb o dop i waelod y busnes, gan gynnwys fi a fy nghyd-gyfarwyddwyr. Rydym oll yn yr un cwch."
Nid oedd Mr Darby am awgrymu ble gallai cwrw Brains gael ei fragu yn y dyfodol, ond mae Marston's â bragdai mewn llefydd fel Burton-on-Trent, Wolverhampton, Sir Rhydychen a Hampshire.
Cafodd cwrw Brains ei fragu ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd o 1882 tan 1999 pan symudodd i hen safle bragdy Hancocks tu ôl i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Erbyn 2019, a'r busnes bellach wedi ailsefydlu ar safle Bragdy'r Ddraig ym Mae Caerdydd, roedd yn cynhyrchu hyd at 20m o beintiau yn flynyddol.
Mae rhwng 80% a 85% o gwrw'r cwmni'n cael ei werthu yn ei dafarndai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020