Terfysg Washington: Ceidwadwr blaenllaw dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae aelod blaenllaw o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael ei feirniadu ar ôl iddo gymharu'r anrhefn a'r trais yng Nghyngres yr Unol Daleithiau gyda gwleidyddwyr wnaeth gefnogi ail refferendwm ar Brexit.
Gwnaed galwadau ar Andrew RT Davies, AS Canol De Cymru yn y Senedd, i dynnu nôl ei negeseuon trydar oedd yn cyfeirio at Sir Keir Starmer a'r AS Alun Davies.
Fe wnaeth Mr Davies ei sylw ar ôl terfysg y tu allan a thu mewn i adeiladau'r Cyngres, wnaeth atal y broes o gadarnhau'r dewis o arlywydd newydd.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr Davies drydar na "ddylid byth goddef trais."
Gwnaed cais i'r Ceidwadwyr Cymreig am sylw.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth ddyfynnu trydar gan Sir Keir, fe wnaeth Mr Davies, sy'n gyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd drydar:
"I fod yn onest dwi ddim yn siŵr os ydych chi yn y safle gorau ar hyn o bryd gan gofio i chi ymgyrchu i wrthdroi democratiaeth a dymuniad pobl Prydain."
Daeth sylwadau Mr Davies, sydd nawr yn llefarydd iechyd ei blaid, mewn ymateb i sylw gan Sir Keir yn dweud fod y terfysg yn "ymosodiad uniongyrchol ar ddemocratiaeth."
Mae dau aelod o gabinet Llywodraeth Cymru wedi galw ar Mr Davies i ailystyried ei sylwadau.
Wrth ymateb i sylw ar Twitter gan AS Blaenau Gwent, Alun Davies, fe wnaeth Mr RT Davies drydar: "Mae'r golygfeydd yn Washingon yn gywilydd ac fel rwyf wedi dweud maen nhw'n deillio o wleidyddion - fel chi - sy'n gwrthod derbyn canlyniad etholiadau democrataidd."
Mewn trydar arall dywedodd: "Golygfeydd ofnadwy yn Washington DC. Dyma sy'n digwydd pan nad yw canlyniad etholiad democrataidd yn cael ei barchu."
Fe wnaeth cyn aelod seneddol Ceidwadol a'r cyn weinidog Alistair Burt, alw ar Mr Davies i ymddiswyddo.
"Ydych chi wedi colli arni yn cymharu'r ddau? Os ydych chi yn dal unrhyw fath o swydd yn y Blaid Geidwadol dylwch ymddiswyddo nawr."
Fe wnaeth Mr Burt golli chwip ei blaid yn 2019 am bleidleisio yn erbyn Brexit digytundeb.
Fe wnaeth Antionette Sandbach, cyn aelod Ceidwadol o'r Senedd yng Nghaerdydd a Thŷ'r Cyffredin, ymateb i sylw Mr Burt.
"Mae hyn yn embaras ond yn rhywbeth cyffredin i Andrew ac yn adlewyrchiad o'r meddylfryd wnaeth o ddangos yn aml fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig."
Fe wnaeth Antionette Sandbach hefyd golli chwip ei phlaid ar ôl pleidleisio yn erbyn Brexit digytundeb yn 2019.
Mae AS Rhondda Chris Bryant wedi ysgrifennu i gyd gadeirydd y Ceidwadwyr Amdanda Milling yn galw am wahardd Andrew RT Davies o'r blaid dros dro.