Help i addysgu a diddanu eich plant gartref

  • Cyhoeddwyd
Cyfnos Sylfaen Cymraeg

Mae 'na wledd o gynnwys rhyngweithiol hwyliog ac addysgiadol ar gael allai fod o ddiddordeb i rieni a'r rhai hynny sy'n gwarchod yn ystod yr wythnosau i ddod.

Dyma gasgliad o'r cynnwys Cymraeg gorau i gyd mewn un lle.

Hwb

Mae S4C a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnig rhaglenni addysgol ar blatfform addysg y llywodraeth, Hwb, sydd ar gael i bob ysgol yng Nghymru, o Ionawr 18, 2021.

Ffynhonnell y llun, S4c

Bydd y 'sianel ffrydio' ar Hwb yn dangos 80 awr o raglenni yn cynnwys 13 cyfres wahanol gan gynnwys cyfresi plant Shwshaswyn, Dwylo'r Enfys, Amser Maith Maith yn ôl, Ditectif Hanes a hefyd rhaglenni o'r brif amserlen fel Cynefin a DRYCH.

Hefyd ar y platfform bydd ffilmiau a chynnwys sydd ar y cwricwlwm Safon A, AS a TGAUgan gynnwys Martha Jac a Sianco ac Y Gwyll.

Bitesize

Adnoddau dysgu, cyngor a chymorth i rieni.

O ddydd Llun 18 Ionawr 2021 hefyd bydd rhai o becynnau BBC Bitesize yn cael eu darlledu ar S4C bob bore Llun i Gwener am 11:45 ac maen nhw i gyd ar gael ar y wefan.

Dyma rai o'r ffyrdd y gallwch chi gadw eich plant - a'u hymennydd - yn brysur gartref gyda Bitezize:

Casgliad o fideos deniadol i feithrin hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson - mewn plant a rhieni yn y cartref ac mewn gwersi.

Cyfres o ffilmiau byr wedi eu hanimeiddio a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae themâu yn cynnwys Rhif; Mesurau ac arian; Siâp, safle a symud; Trin data.

Casgliad o fideos a gweithgareddau hwyliog sy'n dod â'r Gymraeg yn fyw mewn arddull sgwrs bob dydd.

Adnoddau addysgol am bum merch eithriadol o Gymru. Mae pob pecyn dysgu yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, a'n eu cymharu gyda Chymru fodern.

Gweithgareddau, clipiau fideo a nodiadau adolygu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, sy'n cynrychioli'r dair blynedd gyntaf yn addysg ysgolion uwchradd Cymru, ar gyfer disgyblion 11-14 oed.

Cyw

Casgliad o ddeunyddiau addysgiadol ar gyfer plant oed meithrin a chyfnod sylfaen er mwyn sicrhau bod y dysgu yn parhau tra bod yr ysgolion ar gau gan gynnwys cyfresi teledu yn ogystal â deunydd digidol ac apiau.

Ffynhonnell y llun, S4C Cyw

Pob math o weithgareddau rhyngweithiol hyfryd gan gynnwys y Clwb Darllen a Cân Golchi Dwylo

Mae Ap Byd Cyw yn gyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd.

Dyma ap gwych sy'n lle i blant ddysgu a chael hwyl wrth chwarae gyda geiriau, cerddoriaeth a mwy.

S4C Clic

Gwyliwch eich hoff raglenni S4C yn fyw ac ar alw ar Cyw Tiwb, dolen allanol a Stwnsh, dolen allanol.

CBeebies

O'r Teletubbies i'r Go Jetters, mwynhewch jig-sos, gemau a phosau yng nghwmni rhai o'ch hoff gymeriadau ar wefan CBeebies. (Gemau ar gael ar gyfrifiadur yn unig.)

Podlediad Stori TicToc

Apiau addysgol

Ar y Fferm, dolen allanol

Hwyl wrth chwarae ar y fferm gyda Alun yr Arth a'i ffrindiau.

Aur am Air, dolen allanol

Gweithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

Betsan a Roco yn y Pentref, dolen allanol

Ar gyfer dysgwyr ifancaf y Cyfnod Sylfaen, mae'n cynnwys cyfres o gemau deniadol a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn y Gymraeg.

Bys a Bawd, dolen allanol

Cyd-ganwch gyda Bedo, y bardd glas, gan ddilyn ei symudiadau i'r caneuon yn eich ystafell fyw.

Campau Cosmig, dolen allanol

Dros 60 o gemau bychain yn Gymraeg. Ffordd wych o ddysgu, atgyfnerthu a gwella eich Cymraeg tra'n chwarae gemau difyr.

Tric a Chlic, dolen allanol

Atgyfnerthu sain a ffurfiad llythrennau gyda chaneuon i'ch arwain o lythyren i lythyren.

Cofiwch gysylltu os oes gennych chi awgrym am unrhyw adnoddau ar-lein arall hoffech chi i ni eu hystyried ar gyfer y rhestr.

Pynciau cysylltiedig