Elusen yn sicrhau fod pobl ag anableddau yn cael gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae elusen o Sir Ddinbych yn helpu mwy o bobl ag anableddau i fod yn symudol wrth iddyn nhw addasu nifer cynyddol o geir.
Cyn hir, mae Disability Resource Centre ym Modelwyddan yn gobeithio arddangos cerbyd newydd yn y gymuned.
Maen nhw wedi bod yn rhoi cyngor ac yn darparu offer pwrpasol i bobl ag anabledd ers 30 mlynedd.
Yn ddiweddar maen nhw wedi prynu cerbyd newydd er mwyn dangos ei bod hi'n bosib i unrhyw un sydd ag anabledd yrru cerbyd.
Yn y cerbyd newydd, er enghraifft, mae seddi sy'n gallu cylchdroi a sbardun a breciau y gellir eu rheoli â llaw.
Y nod, medd y cynhyrchwyr, yw dangos i bobl sydd ag anableddau fod modd iddyn nhw yrru a bod hi'n bosib addasu cerbyd i'w gofynion.
Dywed Tim Cowsill o'r elusen: "Yr hyn ry'n yn ei wneud yn gyntaf yw asesu pobl ac yna ry'n yn teilwra cerbyd i gwrdd â gofynion pob unigolyn.
"Mae anableddau pobl yn wahanol - ond mae'r ffordd ry'n ni gyd yn gyrru car yn wahanol, lle 'dan ni angen y sedd ayyb."
Unwaith y bydd cyfyngiadau Covid wedi llacio y bwriad yw mynd â'r cerbyd newydd i'r gymuned er mwyn dangos i bobl sydd ag anableddau beth sy'n bosib.
Mae addasu'r car yn gallu bod yn ddrud ond fel arfer mae elusen Motability yn talu am y gwaith wedi i anghenion unigolyn gael eu hasesu.
'Dim rhyddid heb y car'
Cafodd James Lusted, cyflwynydd Songs of Praise, actor a chynghorydd ar Gyngor Sir Conwy ei eni â chyflwr sy'n golygu nad yw wedi gallu tyfu.
Dywed ei fod yn hynod ddiolchgar i'r ddwy elusen am sicrhau fod ganddo gar arbennig sy'n ei alluogi i deithio.
"Heb y car fe fyddwn i'n colli fy annibyniaeth," meddai, "a fyddwn i'n methu gwneud y swyddi dwi'n eu gwneud - sef cyflwyno, actio ar y llwyfan a bod yn gynghorydd.
"Dwi'n gallu g'neud popeth fel pawb arall ond mewn ffyrdd gwahanol. Heb y car fyddwn i ddim yn gallu cael diwrnodau allan gyda'r wraig a'r ferch.
"Mae o'n hynod bwysig bod pobl ag anableddau yn cael pob cyfle i yrru - yn y car sydd gen i mae pedalau hwy, clustogau arbennig ar y sedd ac mae yna fecanwaith hefyd i godi'r gadair olwyn. Heb y car fe fyddwn wedi colli fy rhyddid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020