Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth 'diesboniad' dyn 24 oed

  • Cyhoeddwyd
Mae marwolaeth Mohamud Hassan yn cael ei thrin fel un diesboniad yn ol Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae marwolaeth Mohamud Hassan yn cael ei thrin fel un diesboniad yn ôl Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 24 oed yng Nghaerdydd, oriau ar ol iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa ar ôl cael ei arestio.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn trin marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan fel un diesboniad.

Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y llu nad oedd eu hymchwiliadau cynnar yn awgrymu unrhyw gamymddwyn neu rym eithafol.

Cadw yn y ddalfa

Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i eiddo aml-ddeiliaid ar Heol Casnewydd yn ardal Y Rhath o'r ddinas toc wedi 22:30 nos Sadwrn.

Y noson cynt roedd Mr Hassan wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd yn dilyn adroddiadau o gythrwfl yn yr un cyfeiriad.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach heb gyhuddiad - cam sy'n arferol ar gyfer y drosedd hon meddai'r heddlu.

Cafodd Mr Hassan ei ryddhau tua 8:30 fore Sadwrn.

Canfyddiadau cynnar yr heddlu

Dywedodd llefarydd Heddlu De Cymru bod "luniau camerâu cylch cyfyng a fideo gwisg wedi cael, ac yn dal i gael eu hastudio".

"Fe fydd hyn yn ein helpu i sefydlu a deall yr hyn ddigwyddodd", meddai.

"Nid yw canfyddiadau cynnar y llu yn dangos unrhyw faterion camymddwyn na grym gormodol.

"Rydym yn ymwybodol o adroddiadau helaeth ar y gwefannau cymdeithasol ond oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau a bod y mater wedi ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ni allwn ddweud rhagor ar hyn o bryd."

Mae'r llu yn trefnu i swyddog cysylltiadau teuluol ymweld â'r teulu, ac mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ddydd Mawrth

Ychwanegodd y llefarydd: "Hyd nes y cawn gadarnhad o achos y farwolaeth rydym yn annog pobl i beidio dyfalu yn ei gylch."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eu bod yn asesu'r wybodaeth cyn penderfynu a oes angen iddynt gynnal ymchwiliad annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd modryb Mr Hassan, Zainab Hassan, fod llawer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn ag amgylchiadau marwolaeth ei nai

Dywedodd ei fodryb, Zainab Hassan, ei fod yn berson "cariadus" oedd ar fin bod yn dad.

Roedd hi wedi gweld ei nai awr ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.

"Cafodd ei ryddhau fore Sadwrn gyda llawer o anafiadau i'w gorff a llawer o gleisiau," meddai.

"Doedd yr anafiadau yma ddim yno pan gafodd ei arestio, a phan ddaeth allan o orsaf heddlu Bae Caerdydd roedden nhw ganddo.

"Ni fydd unrhyw beth yn dod ag e yn ôl ond fyddwn ni ddim yn gorffwys am eiliad nes y cawn ni gyfiawnder."

'Dyn ifanc, iach'

Dywedodd y twrnai, Hilary Brown, cyfarwyddwr Virgo Consultancy, fod cwyn wedi ei gwneud i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ac y byddai'r teulu'n ceisio cael adroddiad patholegydd annibynnol. Galwodd hefyd am heddlu annibynnol i ymchwilio i'r mater.

"Rydym eisiau i rywun geisio egluro i ni pam fod dyn ifanc, iach, wedi cael ei arestio gan Heddlu De Cymru heb unrhyw anafiadau amlwg ar ei gorff, ac ar ôl cael ei ryddhau o orsaf heddlu Bae Caerdydd... fod ganddo farciau drwg gyda chleisiau a thoriadau, ac o fewn oriau, roedd o wedi marw," meddai.

"Rydym angen rhywun i egluro i ni os oedd yna gysylltiad rhwng yr anafiadau a gafodd un ai cyn cael ei gymryd i orsaf yr heddlu Bae Caerdydd, neu tra yr oedd o yng ngorsaf yr heddlu Bae Caerdydd - a chwaraeodd [yr anafiadau] ran yn ei farwolaeth?

"Rydym eisiau gwybod os yw'r honiadau o ymosodiad a wnaeth [Mr Hassan] yn erbyn swyddogion Heddlu De Cymru wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at ei farwolaeth."

Pynciau cysylltiedig