Amddiffynnwr Caerdydd, Sol Bamba yn derbyn triniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
Sol BambaFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Sol Bamba, yn derbyn triniaeth am ganser, meddai'r clwb.

Mae Bamba, 35, wedi cael diagnosis o lymffoma Non-Hodgkin.

Dywedodd y clwb mewn datganiad ei fod wedi dechrau triniaeth cemotherapi.

"Mae Sol wedi dechrau ei frwydr mewn hwyliau da a bydd yn parhau i fod yn aelod allweddol o deulu'r Adar Gleision," meddai'r datganiad.

Ymunodd Bamba gyda'r Adar Gleision yn 2016 dan y cyn-reolwr Neil Warnock.

Ychwanegodd y clwb y byddai Bamba yn parhau i gefnogi ei gyd-chwaraewyr a chwaraewyr ifanc o fewn yr academi drwy ei waith hyfforddi.

Roedd Bamba yn rhan o'r garfan wnaeth sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn 2018, ac mae wedi chwarae dros 100 o weithiau i Gaerdydd.

Mae hefyd wedi chwarae 46 o weithiau i'r Traeth Ifori, gan gynnwys yng Nghwpan y Byd.