Treigladau a thriciau eraill i guddio atal dweud
- Cyhoeddwyd
Pan fydd Joe Biden yn dechrau ar ei waith wythnos nesaf yn un o swyddi mwyaf cyhoeddus y byd, y fo fydd y person cyntaf gydag atal dweud i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mae'r gwleidydd wedi trafod y stigma sy'n dod gyda'r cyflwr a phwysigrwydd peidio gadael iddo amharu ar fywyd.
Beca Brown, fu'n gweithio yn y cyfryngau am flynyddoedd ac sy'n llais cyfarwydd ar Radio Cymru, fu'n trafod ar raglen Aled Hughes yr atal dweud wnaeth hi ei gadw'n gudd tan yn ddiweddar.
Heblaw bod ganddoch chi un difrifol ofnadwy mi fedrwch chi guddio fo'n reit dda. Mae hynny'n gallu creu awyrgylch o gyfrinachedd a chywilydd, achos nesh i ddim dweud wrth neb am flynyddoedd bod gen i un, a ro'n i'n gwneud fy ngorau i drio'i guddio fo.
'Da chi'n golygu'ch hun wrth fynd ymlaen. Pan dwi'n siarad mae fy mhen i ryw frawddeg ar y blaen i be' sy'n dod allan o' ngheg i, fel 'mod i'n gallu osgoi geiriau anodd.
Dwi wedi dysgu bob math o driciau.
Dwi wedi ffeindio - sy'n eironig o ystyried y math o yrfa dwi wedi ei gael - roedd o'n wastad yn waeth os oeddwn i ar y ffôn ac ar y radio. Dwi'n meddwl be' ydi o, mewn amgylchiadau pan mai dim ond eich llais chi sydd ganddo chi, mae hynny'n achosi tensiwn i rywun efo atal dweud achos 'da chi'n dibynnu'n llwyr ar eich llais ac ar ansawdd eich llais.
Poeni yn yr ysgol
Pan oeddwn i yn yr ysgol ac yn fy ugeiniau ro'n i'n poeni yn sobr amdano fo, roedd yn achosi lot o boen meddwl, a ro'n i'n troi lawr lot o gyfleon a throi lawr gwaith radio achos ro'n i mor ofn iddo ddigwydd ac y bydda pobl yn gwybod.
Wrth fynd yn hŷn, fel mae rhywun efo bob dim, 'da chi'n poeni llai ac wrth boeni llai mae'n digwydd yn llai aml, ac erbyn hyn dwi o'r farn os mae'n digwydd, mae'n digwydd a tydi o ddim yn ddiwedd byd.
Mae blinder, bod yn sâl, bod yn nerfus yn ei wneud yn waeth - hwnna ydi'r peth gwaetha os yda chi'n tense, felly dwi wedi trio gwneud dipyn o waith ar sut i ymlacio a sut i anadlu'n well.
Newid enw
Cytseiniaid caled ydi'r job anodda' i fi - ac fel rhywun efo enw sydd efo cytsain galed ar ddechrau enw cynta' a'r cyfenw…
Os ydw i mewn rhyw sefyllfa ffurfiol lle dwi'n cyfarfod pobl am y tro cyntaf a phobl yn gofyn be' ydi'n enw i, mae gorfod dweud Beca Brown yn anodd i fi weithiau achos mae B, G, D a C yn anodd i fi.
Mae unrhywun sy'n fy adnabod i'n dda, os dwi byth yn cyflwyno fy hun wrth fy enw go iawn - Rebecca - maen nhw'n gwybod mai trio osgoi atal ydw i… mae gen i driciau fel hynny.
Mae gwahanol fath o atal. Glywch chi bobl sy'n atal lle maen nhw'n ail-ddweud rhan o air lot o weithiau, nid atal felly sydd gen i. Mae gen i math o atal fel bloc ar sŵn ac os dwi'n cyrraedd bloc ddaw dim byd allan a does dim byd alla i wneud am y peth ac mae hynny'n digwydd efo cytseiniaid caled.
Felly er enghraifft, pan oeddwn i'n dewis enwau fy mhlant ro'n i'n licio'r enw Begw a Deio, ond ro'n i'n meddwl dwi ddim yn mynd i roi B a D achos os fydda i wedi cynhyrfu rhyw dro ac eisiau rhoi ffrae iddyn nhw ddaw'r geiriau yna ddim allan.
Mae llythrennau sy'n gallu eu dweud yn hir fel S yn llawer haws, achos mae'r sain yn hir.
Treiglo
Mae'n reit handi efo'r Gymraeg achos mae cytseiniaid caled yn treiglo. Os ydw i mewn sefyllfa lle dwi ychydig bach nerfus wna i drio ffurfio brawddeg lle mae'r gair dwi ofn yn treiglo felly mae'n feddalach sain. Dwi'm yn sylwi mod i'n 'neud o erbyn hyn.
Dwi wedi treulio oes yn trio rheoli'r cyflwr sydd gen i felly dwi'n hen law. Mi 'neith o ddigwydd weithiau, mi wnaiff ddigwydd ar y radio weithia'… ond dwi wedi penderfynu erbyn hyn, tydi o ddim diwedd y byd.
Hefyd o ddiddordeb: