Dysgu Cymraeg yn America a Melbourne
- Cyhoeddwyd
Cafodd ei geni yn America ac mae bellach yn byw yn Awstralia, ond mae gwlad hen hen daid Liz Williams wedi bod yn agos at ei chalon erioed.
Un o'i hatgofion cynharaf yw canu'r emyn Calon Lân yn blentyn - er na allai ynganu'r geiriau na'u deall.
Tra bod Covid-19 yn gyfnod o glo i lawer o'r byd, roedd y cyfle i siarad Cymraeg â thiwtor yng Nghymru trwy Zoom bob wythnos yn agor drysau i Liz Williams.
Arweiniodd y cyfnod clo at gynnydd yn y dysgwyr Cymraeg newydd, yn ôl un ap.
Dywed Duolingo fod 1.5 miliwn o bobl wedi dechrau dysgu ar y platfform - gyda'r niferoedd yn cynyddu 44% yn 2020, gan ei gwneud yr iaith sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.
Awgrymodd ei adroddiad blynyddol fod y twf yn ganlyniad i bobl oedd eisiau "cysylltu â'r wlad a gweld y Gymraeg yn ffynnu fel iaith".
Cafodd Liz, 29, ei geni yn Efrog Newydd a'i magu yn Pennsylvania, gyda rhai o'i hatgofion cynharaf o fynychu gwyliau canu emynau Cymanfaoedd Canu, a gynhaliwyd yn eglwysi Cymru ar draws gogledd-ddwyrain America.
Mae ei chysylltiad â Chymru yn dyddio'n ôl i 1886, pan ymfudodd ei hen hen daid o Aberdaron, Gwynedd, i Efrog Newydd.
Pan oedd hi'n 11 oed ymwelodd â'r tŷ lle cafodd ei fagu a dychwelodd yn 2015, yn 21 oed, i fynychu Eisteddfod Genedlaethol Meifod y Mhowys.
"Fy hoff beth am ddysgu Cymraeg yw gallu cyfathrebu ag aelodau o'r teulu sy'n dal i fyw yng Nghymru," meddai Liz.
"Fy hen hen daid oedd yr unig un o 10 o frodyr a chwiorydd a ymfudodd i America.
"Rwy'n aml yn meddwl tybed pa mor wahanol fyddai fy mywyd pe na bai wedi gadael Cymru."
'Wrth fy modd efo Rownd a Rownd'
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2012 gyda'r ap Say Something In Welsh ac mae hefyd yn defnyddio'r adnoddau ar wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg.
Llwyddodd Liz i barhau i ddysgu ar ôl symud i Awstralia yn 2018, gan ymuno â dosbarth a drefnwyd gan Eglwys Gymraeg Melbourne.
"Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar Radio Cymru, ac yn gwylio rhaglenni fel Rownd a Rownd ar S4C," ychwanegodd.
"Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo bob dydd, ac yn trefnu sgyrsiau ar Skype gyda fy mherthnasau yng Nghymru."
Trwy gydol y cyfnod clo, parhaodd ei dosbarth Melbourne trwy Zoom, fel y gwnaeth ei sgyrsiau gyda'i thiwtor yng Nghymru.
Dywedodd Liz ei bod wedi bod yn defnyddio ei sgiliau i gyfieithu hen ddogfennau ac erthyglau papur newydd i ddarganfod mwy am ei theulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd12 Mai 2017