Cymraeg yn fwy poblogaidd na Mandarin ar Duolingo

  • Cyhoeddwyd
Helen ProsserFfynhonnell y llun, Cymraeg i Oedolion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn rhagweld na fydd modd dychwelyd i ddysgu yn y dosbarth ym mis Medi

Mae apêl gwersi Cymraeg arlein wedi cynyddu yn sylweddol gyda threfnwyr yn dweud eu bod "methu credu'r peth" o ran nifer y dysgwyr newydd.

Daw hyn wrth i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddechrau partneriaeth gyda'r rhaglen dysgu Cymraeg SaySomethinginWelsh, wedi i filoedd o bobl newydd ddechrau dysgu'r iaith arlein yn ystod y cyfnod clo.

Yn y cyfamser, mae ap ieithoedd Duolingo yn dweud bod 1.3m o bobl ar draws y byd nawr yn dysgu Cymraeg ar yr ap, a bod yr iaith bellach yn fwy poblogaidd yn y DU na 'Cheinieg' sef math Mandarin o ardal Beijing.

Ers cynnig cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim ganol mis Mawrth, fe ddilynodd 8,300 o ddysgwyr newydd gyrsiau digidol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Ni wrth ein bodd a'n methu credu'r peth," medd Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Helen Prosser.

"Cant oedd y targed! Roedd hi'n her enfawr i ddod o hyd i'r tiwtoriaid."

Roedd angen digon o diwtoriaid i gynnal 89 o ddosbarthiadau rhithiol, gyda dros 1,300 o'r dysgwyr yn ddechreuwyr llwyr.

Un o'r rheiny yw Joshua Osborne o Poole yn Dorset.

Yn astudio am radd meistr mewn mathemateg ym mhrifysgol Caergrawnt, fe benderfynodd ddysgu Cymraeg wedi i'w gariad o Gymru anfon dolen gwersi'r ganolfan genedlaethol ato.

Ffynhonnell y llun, Joshua Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Joshua ddysgu Cymraeg gan bod ei bartner yn dod o Gymru

"Ro'n i'n credu ei fod yn bwysig yn ystod y cyfnod clo i gael strwythur - rhywbeth i'w wneud bob wythnos.

"Hefyd, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n syniad da i ddysgu iaith. Rwy wedi ceisio dysgu iaith o'r blaen, ond y broblem i fi, yw bod dysgu iaith fel arfer yn dibynnu ar ysgogi'ch hunan.

"Does neb yn cysylltu â chi bob wythnos i weld sut ry'ch chi'n datblygu. Dyna beth ddenodd fi at y cwrs."

Mae nawr yn ei bedwaredd wythnos o'r cwrs ac yn dechrau taclo'r treigladau.

"Mae'n iaith sy'n swnio mor neis," meddai.

"Rwy'n credu y bydda i'n dal ati i ddysgu wedi'r cyfnod clo. Byddai'n neis i gael iaith yn gyffredin a fy mhartner i.

"Rwy fel arfer yn cael trafferth dysgu ieithoedd, ond mae fel pe bae'n mynd yn dda hyd yn hyn."

Dysgu iaith arlein yn fwy poblogaidd

Mae dysgu ieithoedd arlein wedi profi'n boblogaidd mewn sawl man wrth i'r coronafeirws ledu.

Yn Sbaen, mae papur Forbes yn dweud i nifer y dysgwyr ar ap Duolingo gynyddu 126% yn yr wythnos cyn i'r llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau cymdeithasol caeth.

Yn Cheina hefyd, fe ddyblodd nifer y dysgwyr oedd yn defnyddio'r dechnoleg.

Mae'r Gymraeg wedi dod yn fwy poblogaidd na Mandarin ar ap Duolingo - Cymraeg yw'r 7fed iaith fwyaf poblogaidd ar yr ap yn y DU.

Mae'r Brifysgol Agored yn dweud bod nifer y myfyrwyr sydd wedi troi atyn nhw yn ystod y cyfnod clo wedi cynyddu'n sylweddol hefyd. Ym Mis Mawrth 2020, cafodd y wefan 64,000 o ymweliadau o Gymru. Ym mis Ebrill daeth 120,000. Ymysg y deg cwrs mwyaf poblogaidd ar ar eu gwefan, Cymraeg i ddechreuwyr oedd ar y brig.

Rhannu adnoddau

Bwriad y bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a SSIW yw caniatáu rhannu adnoddau ac arbenigedd er mwyn ei gwneud hi'n haws i ddysgwyr ddysgu Cymraeg.

Bydd disgownt hefyd i ddysgwyr y Ganolfan i ddefnyddio adnoddau dysgu SSIW sydd â mwy o bwyslais ar wersi fideo neu sain dyddiol.

"Ni gyd yn realistig yn meddwl y byddwn ni dal yn cynnal gwersi arlein ym mis Medi.

"Ac o hyn ymlaen, bydd 'na ganran fydd yn dymuno dysgu arlein hefyd," medd Helen Prosser.

Ffynhonnell y llun, Dysgu Cymraeg

"Mae cymaint o ddysgwyr yn defnyddio'r ddau wasanaeth, felly mae hyn yn ffurfioli'r bartneriaeth."

Un sydd wedi mwynhau defnyddio'r ddau wasanaeth yw Vanessa Kelly, ceiropractydd o Gaerdydd. Doedd dim modd dysgu Cymraeg yn ei hysgol uwchradd hi yn y Tyllgoed, ond mae wastad wedi dymuno dysgu'r iaith.

"Rwy wastad yn teimlo cywilydd nad ydw i'n gallu canu'r anthem genedlaethol," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Vanessa Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vanessa'n textio'i ffarier yn y Gymraeg, ac yn ymarfer drwy siarad a'i phartner marchogaeth yn y Gymraeg

Pan ddaeth y cyfyngiadau i rym wedi i coronafeirws daro'r wlad, fe sylwodd hi fod sesiynau'n cael eu cynnig i ddysgwyr Cymraeg ar wefan Facebook am 3 o'r gloch a phenderfynodd ailgydio mewn ymgais flaenorol i ddysgu'r iaith. Fe ymrwymodd i gwrs newydd hefyd.

"Rwy'n gwrando ar y radio yn y car, yn gwneud SaySomethinginWelsh, gwylio S4C... Rwy'n trochi'n hun yn yr iaith mewn ffyrdd gwahanol.

"Fe wyliais i Carol Vorderman yn dysgu ar y teledu, ac roedd hynny yn wych. Nes i ddim rhoi'r is-deitlau mlaen ac fe ges i sypreis am gymaint roeddwn i'n ei ddeall!

"Rwy'n benderfynol o ddysgu'r iaith. Mae rhaid i fi ddal ati i ymarfer, a gwrando."

Pe na bai'r cyfnod clo wedi digwydd, mae Vanessa'n dweud y byddai wedi mynd ar gwrs preswyl, ond yn lle hynny, bu'n ymroi i ddysgu yn ei chartref gymaint â phosib.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd fod ymddangosiad Carol Vorderman ar raglen 'Iaith ar Daith' S4C wedi bod yn hwb

Mae hi'n gobeithio gwneud arholiad yn yr iaith y flwyddyn nesaf, ond mae'n cyfaddef bod yn well ganddi ddysgu arlein na mewn dosbarth.

"Os gaf i ddewis, bydden i yn parhau i ddysgu arlein. Mae'n haws i fi ac yn llai o drafferth na gorfod cyrraedd rhywle i gael gwersi.

"Ond, fe fydden i'n gwneud ymdrech i gwrdd â gweddill y dosbarth yn anffurfiol i ymarfer."

Fe gyflwynodd SaySomethinginWelsh gyrsiau newydd yn ystod y cyfnod clo hefyd, yn cynnwys 'Bedtime Welsh' i helpu teuluoedd di-Gymraeg ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o adref. Maen nhw'n dweud bod nifer y dysgwyr bron wedi treblu ers i'r pandemig daro.

Mae Aran Jones, cyd sylfaenydd y cwmni yn falch o'r cyfle i gydweithio a'r ganolfan genedlaethol.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac mae cydweithio fel hyn yn sicr o fod o fudd i ddysgwyr."