Beti George: 'Dyw byw eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddarlledwraig Beti George ar drothwy cael ei brechlyn Covid-19 cyntaf a hithau newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 82 mlwydd oed yr wythnos hon.
Mae hi wedi parhau i recordio ei chyfres Beti a'i Phobol i Radio Cymru o'i chartref yn ystod y cyfnodau clo, gan gyfweld â'r Prif Weinidog Mark Drakeford ychydig cyn y Nadolig.
Mae'r cyflwynydd sy'n byw ar gyrion Caerdydd, wedi treulio'r cyfnodau clo ar ei phen ei hun, ac mae'n trafod 'undonedd' y flwyddyn a fu, gwrthod anrhydedd a gobeithio y daw haul ar fryn yn 2021.
2020. Fe ddechreuodd fel pob blwyddyn arall ar ddydd Calan. Roedd fy horosgop yn addo petawn yn rhoi fy meddwl ar waith go iawn, gallwn greu'r byd yr oeddwn wedi hen ddyheu amdano.
O Ebrill i Awst roedd cyfle i wella fy mywyd cymdeithasol. Yn lwcus i mi, doeddwn i ddim yn mynd i wynebu afiechyd.
Addewid am flwyddyn 'anghyffredin o wych'
Yn ôl un o'r sêr-ddarllenwyr, sy'n brolio bod pobl yn cael eu syfrdanu gan gywirdeb ei phroffwydoliaethau, byddai 2020 yn flwyddyn anghyffredin o wych, un o'r goreuon erioed i'r Capricorniaid yn emosiynol ac yn faterol.
Roedd Mawrth 24ain yn mynd i fod yn ddiwrnod arbennig o lwcus. Wir? Ddiwrnod ar ôl cyhoeddiad swyddogol ein bod i gael ein cloi i fewn yn ein tai! A doedden ni ddim i fod cwrdd ag aelodau o'r teulu onibai ein bod yn byw yn yr un tŷ.
Ar ddechrau'r cyfnod clo, roedd 'na gyffro yn yr awyr. Roedd e'n brofiad newydd. Roeddech chi naill ai'n canu ar Côr-ona [grŵp a sefydlwyd ar Facebook yn ystod y cyfnod clo cyntaf] neu yn cyfnewid ryseitiau - cacennau yn benna' - oedd yn golygu bod rhaid twrio am duniau pobi oedd â llwch blynyddoedd arnyn nhw.
Canai'r ffôn yn ddi-baid a braf oedd cael gair â ffrindiau nad oeddwn wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers blynyddoedd. Mae niolch i'n fawr i gyfeillion hael am sicrhau bod digon o fwyd yn y tŷ.
'Yr ardd yn ddihangfa'
Yng nghlo mawr y gwanwyn braf roedd yr ardd fawr yn ddihangfa berffaith. Wedi blwyddyn o ddiodde' sŵn annioddefol ar brydiau, wrth i'r datblygiad tai anferth yma yng ngorllewin y brifddinas ddangos ei ddannedd, fe gefais i a'r adar ychydig wythnosau o baradwys pan ddaeth y gwaith i ben. Her, er hynny oedd dod o hyd i hadau llysiau i'w plannu. Roedden nhw mor brin â phapur tŷ bach.
'Dyw byw ar eich pen eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort - ystrydeb sy'n hollol wir. Unwaith, yn ystod ymweliad byr a chwtshys mawr anghyfreithlon ym mis Medi, y gwelais fy nheulu.
'Nôl â ni i'n ogofâu'
Yr undonedd oedd y bwgan. Pwy fyse'n meddwl y byddai gorfod cael llawdriniaeth yn rhywbeth i'w groesawu er mwyn torri ar hwnnw.
Roedd e hefyd yn esgus i gwrdd â 'nghyfeillion a ofalodd fy mod yn cael fy nghludo'n saff i'r ysbytai yng Nghaerdydd a Threforys.
Daeth yr haf a'r llacio, a'r cymdeithasu braf ac ambell i bryd o fwyd mewn tŷ bwyta. Ond daeth y gaeaf yn rhy sydyn o lawer, a nôl â ni i'n ogofâu.
Hiraethwn na fyswn i'n clywed mwy o fy nghyfoedion yn rhannu eu profiadau a'u teimladau ar y cyfryngau.
Mae'n ddrwg gen i ond dw i'n gweiddi'n aml ar y radio yn y bore - o na dim eto - addysg neu iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn cael y sylw eto.
Ie, iddyn nhw mae'r dyfodol yn perthyn a gwn bod bywyd yn gallu bod yn galed iawn arnyn nhw (mae gen i ddau o wyrion) a dw i'n ymddiheuro am y gweiddi!
Gwrthod anrhydedd
Cefais anrheg Nadolig annisgwyl iawn, gyda llaw. Doedd y darllenwyr sêr hyd yn oed, ddim wedi ei ddarogan. Roedd rhywun neu rywrai yn credu mod i'n haeddu bod yn aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig am fy nghyfraniad i'r cyfryngau ac i elusen. A mawr yw fy ngwerthfawrogiad o'u cefnogaeth.
Ond teimlwn mai rhagrith fyddai i mi dderbyn. Dw i wedi cael fy nhalu am fy ngwaith ar y cyfryngau, a phitw yw fy nghyfraniad i i'r ymgyrch i drio gwella bywydau pobl â dementia a'u gofalwyr, o'i gymharu ag eraill sy'n ymroi'n dawel ac yn ddi-sylw.
Dw i hefyd yn weriniaethwr ac mae'r Ymerodraeth i mi yn symbol o ormes, caethwasiaeth a dioddef.
'Dw i mewn cwmni da - rhai fel Hywel Gwynfryn a'r diweddar Carwyn James ac mae'n siŵr bod 'na lawer rhagor.
Y clo yn 'debycach i garchar'
O ran y pandemig, mae'r clo gaeaf wedi bod yn debycach i garchar. Yn y munudau tywyllaf mae'n teimlo mod i yn y stafell aros... Diolch byth mai prin yw'r munudau hynny. A 'dw i yma o hyd a diolch yn fawr i fy Mhobol am fy nghadw i fynd yn weddol gall.
Ar ôl cael y brechlyn ymhen wythnos, falle y bydd horosgop 2020 yn iawn ac y dylwn edrych mlaen at y flwyddyn wychaf erioed - ddeuddeng mis yn ddiweddarach!
Hefyd o ddiddordeb: