Record byd newydd am y gôl bellaf i golwr Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
DathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Tom King ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2019

Mae gôl gan golwr Clwb Pêl-droed Casnewydd yn ystod eu gêm yn erbyn Cheltenham nos Fawrth wedi torri record byd.

Fe ergydiodd Tom King y bêl o'i gwrt chwech ei hun, ac fe laniodd ar gyrion cwrt cosbi Cheltenham, cyn bownsio dros eu golwr Joshua Griffiths ac i'r rhwyd.

Y record flaenorol am y gôl bellaf mewn gêm gystadleuol oedd un gan Asmir Begovic i Stoke City yn erbyn Southampton - gydag ergyd 91.9 metr ar 2 Tachwedd 2013.

Roedd pellter gôl King yn 96.01 metr, ac fe sgoriodd gwta 13 eiliad yn unig ar ôl y chwiban agoriadol.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Newport County AFC

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Newport County AFC

Aeth ymdrech King yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol ac fe wnaeth gellwair y byddai'n mynd â thâp mesur yn ôl i Cheltenham.

Ond mae'n dweud bod cyfeillgarwch â chyd-gôl-geidwad arall wedi atal unrhyw or-ddathlu: "Nid oedd unrhyw ddathliad - fyddwn erioed wedi gwneud hynny i gôl-geidwad arall.

"Rwy'n credu bod gennym ni fath o reol anysgrifenedig, yr undeb gyfrinachol rhwng golwyr y mae pobl yn siarad amdano, felly ni fyddwn byth wedi gwneud hynny," meddai King.

"Fyddwn i byth wedi dathlu, ond rydw i'n hapus fy mod i'n gallu helpu'r tîm a dweud y gwir."