Cyn-gapten Cymru, Ashley Williams yn ymddeol o bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Williams ddwy gôl i Gymru - un ohonynt yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016

Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol.

Mae Williams, 36, wedi bod heb glwb ers iddo gael ei ryddhau gan Bristol City ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Enillodd yr amddiffynnwr 86 o gapiau dros Gymru, gan arwain y tîm i rownd gynderfynol Euro 2016.

Er iddo ddechrau ei yrfa broffesiynol yn hwyr, fe wnaeth Williams chwarae 741 o gemau i glybiau fel Abertawe, Everton a Stoke.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Dywedodd Williams ei fod wedi dod i'r penderfyniad ar ôl "ystyried cynigion diweddar i barhau i chwarae".

"Bod yn gapten ar Gymru yn rownd gynderfynol Pencampwriaethau Ewrop yn 2016 oedd fy nghyflawniad gorau, ac mae'n rhywbeth na fydda i fyth yn ei anghofio," meddai.

"Rydw i eisiau diolch i fy nghyd-chwaraewyr, rheolwyr, staff a'r holl gefnogwyr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Williams ennill 86 o gapiau rhyngwladol - 53 o'r rheiny fel capten

Fe ddechreuodd Williams ei yrfa yn Hednesford Town a Stockport County cyn arwyddo i Abertawe yn 2008.

Ar ôl wyth mlynedd gyda'r Elyrch fe symudodd i Everton cyn ymuno â Stoke ar fenthyg yn 2018.

Wedi iddo gael ei ryddhau gan Everton ar ddiwedd tymor 2018-19 ymunodd â Bristol City ar gyfer ei dymor olaf fel chwaraewr proffesiynol.

Wedi'i eni yn Wolverhampton, roedd Williams yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei dad-cu, oedd yn dod o'r Rhondda.

Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf yn 2008 yn ystod cyfnod John Toshack wrth y llyw, ac aeth ymlaen i ennill 86 o gapiau - 53 o'r rheiny fel capten.