Ailagor ffatri brechlyn ar ôl canfod 'pecyn amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae uned ddifa bomiau wedi ymateb i ddigwyddiad yn agos i ffatri yn Wrecsam sy'n cynhyrchu'r brechlyn AstraZeneca ar gyfer coronafeirws.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiadau o becyn amheus ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam fore Mercher, ger ffatri Wockhardt UK.
Cafodd ffyrdd eu cau yn yr ardal a gweithwyr eu symud o'r ffatri wrth i'r heddlu a'r uned ddifa bomiau ymateb.
Cadarnhaodd y cwmni brynhawn Mercher bod y gwaith o gynhyrchu'r brechlyn wedi ei atal am gyfnod, ond bod staff bellach wedi cael mynd yn ôl i'r adeilad.
Ni fydd yr oedi yn effeithio ar yr amserlen gynhyrchu, meddai Wockhardt.
Yn gynharach, dywedodd Wockhardt bod "pecyn amheus" wedi cyrraedd y safle, ac ar gyngor arbenigol cafodd y ffatri ei gwagio'n rhannol.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod uned ddifa bomiau wedi bod ar y safle, a bydd y pecyn yn cael ei archwilio fel rhan o ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru.
Does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau.
Mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd wedi agor i'r cyhoedd eto, ond dywedodd yr heddlu y byddai rhai cyfyngiadau'n parhau.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Does dim pryderon pellach am ddiogelwch y cyhoedd, ond fe fydd rhai ffyrdd ar y stad ddiwydiannol yn parhau ynghau wrth i'r ymchwiliad barhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020