Gweithwyr Airbus yn pleidleisio o blaid lleihau oriau

  • Cyhoeddwyd
A security guard standing outside Airbus in Broughton, FlintshireFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyhoeddiad yn ystod haf 2020 am golli swyddi ym Mrychdyn yn ergyd i'r ardal gyfan

Mae gweithwyr ffatri Airbus ym Mrychdyn wedi pleidleisio o blaid lleihau eu horiau er mwyn ceisio atal diswyddiadau gorfodol.

Cafodd y cynnig ei roi gerbron wedi i'r cwmni gyhoeddi yn ystod yr haf ei bod yn ystyried cael gwared â 1,435 o swyddi o'r ffatri yn y gogledd-ddwyrain.

Fe allai nifer o weithwyr dderbyn diswyddiadau gwirfoddol ond mae dyfodol rhwng 350 a 400 o swyddi yn parhau yn y fantol.

Y gobaith ydy y bydd gostwng oriau'r wythnos waith o gymorth i'r ymdrechion i osgoi diswyddiadau gorfodol.

Roedd y bleidlais, ymhlith 3,500 o aelodau undeb Unite, wedi cau fore Llun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna rybudd yn yr haf y gallai chwarter swyddi ffatri Airbus ym Mrychdyn gael eu colli

Cyn y bleidlais, dywedodd llefarydd ar ran yr undebau y byddai gweithwyr yn debygol o golli 6.6% o'u cyflog petaen nhw'n pleidleisio o blaid wythnos waith fyrrach.

Bydd y trefniant newydd yn dod i rym pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben, ac fe fyddai yn parhau tan y Nadolig.

Mae ffatri Airbus yn cyflogi tua 6,000 o bobl. Ym mis Ebrill cafodd 3,200 eu rhoi ar gynllun ffyrlo Llywodraeth San Steffan.

Ym mis Gorffennaf 2020 rhybuddiodd AS Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd fod pob un o swyddi Airbus yn cefnogi tair arall yn lleol.

"Ry'n ni'n sôn am 25,000 o bobl sy'n ddibynnol ar Airbus ym Mrychdyn am eu gwaith," meddai.

Pynciau cysylltiedig