Pryder am ddyfodol swyddi gweithwyr Airbus ym Mrychdyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffatri ym Mrychdyn yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau yn cynnwys yr A380
Mae pryder am ddyfodol swyddi'r cwmni adeiladu adenydd awyrennau Airbus ym Mrychdyn, wedi i'r cwmni gyhoeddi y bydd yn diswyddo 1,700 o weithwyr ym Mhrydain.
Bydd Airbus yn diswyddo 15,000 o weithwyr yn fyd-eang, wrth iddo ymateb i newidiadau yn y farchnad yn dilyn y pandemig coronafeirws.
Mae'r safle ym Mrychdyn, Sir y Fflint yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau'r cwmni ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr.
Nid oes cadarnhad eto am faint o'r swyddi hyn fydd yn cael eu colli.
Ond, mae Airbus wedi cadarnhau y bydd y mwyafrif o'r swyddi fydd yn cael eu colli yn adran awyrennau masnachol y cwmni, ym Mrychdyn ac yn Filton, ger Bryste.
Ni fydd safle'r cwmni yng Nghasnewydd yn cael ei effeithio meddai llefarydd.
Diswyddiadau byd-eang
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Airbus y bydd y diswyddiadau'n cael eu cwblhau erbyn haf 2021 ar yr hwyraf.
Mae'r cwmni'n trafod gyda'r undebau llafur ac mae disgwyl i'r broses ddiswyddo ddechrau yn yr hydref.

Safle ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir Y Fflint
Dywed datganiad Airbus fod gweithgareddau awyrennau masnachol "wedi gostwng 40% yn y misoedd diwethaf wrth i'r diwydiant wynebu argyfwng digynsail."
Ychwanegodd y datganiad nad oedd disgwyl i draffig hediadau ddychwelyd i lefelau arferol oedd yn bodoli cyn dyfodiad y pandemig tan o leiaf 2023, ac efallai mor hwyr a 2025.
Mae'r cwmni'n disgwyl diswyddo:
1,700 o weithwyr yn y DU
5,000 o weithwyr yn Ffrainc
5,100 o weithwyr yn yr Almaen
900 o weithwyr yn Sbaen
1,300 o weithwyr yn safleoedd eraill y cwmni ar draws y byd.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd prif weithredwr Airbus, Guillaime Faury: "Mae Airbus yn wynebu'r argyfwng mwyaf difrifol yn hanes y diwydiant.
"Mae'r mesurau yr ydym wedi eu cymryd hyd yn hyn wedi ein galluogi i amsugno sioc gychwynnol y pandemig byd-eang hwn.
"Nawr, rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu cynnal ein busnes a dod allan o'r argyfwng hwn fel arweinydd iach yn y diwydiant awyr-ofod, gan addasu i sialensiau digynsail ein cwsmeriaid.
"I wynebu'r realiti yma, rhaid i ni gyflwyno mesurau pellgyrhaeddol. Mae ein tîm rheoli a'n bwrdd o gyfarwyddwyr wedi eu hymrwymo'n llawn i geisio cyfyngu effaith cymdeithasol y newidiadau hyn."
Ychwanegodd y cwmni y bydd mwy o fanylion am y diswyddiadau yn ddiweddarach yn yr wythnos yn dilyn trafodaeth gyda'r undebau.


Ond eisoes dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite yng Nghymru: "Byddai colli'r swyddi yma yn Airbus yn cael effaith ddinstriol ar y sector awyrofod yng Nghymru ac ar economi Cymru yn ehangach.
"Mae Unite wedi bod yn galw ar lywodraeth y DU ers misoedd am gynllun i gefnogi'r sector... mae'r gefnogaeth yma wedi dod gan Ffrainc a'r Almaen. A fydd llywodraeth y DU nawr yn gwneud yr hyn sydd angen i warchod swyddi yn y DU?.
"Ry'n ni'n galw ar Airbus i gamu nôl rhag gweithredu'r cynllun yma. Rhaid gwneud popeth i drafod gyda'r llywodraeth i weld os oes modd rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol tan i'r argyfwng yma ein gadael.
"Ni fydd Unite yn derbyn unrhyw gynnig sy'n cynnwys diswyddiadau gorfodol i'n haelodau."

Mae pryder yn gyffredinol ynghylch effaith yr argyfwng coronafeirws ar y diwydiant awyrofod
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AS y byddai'n rhoi mwy o fanylion am ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyhoeddiad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Mercher.
Ychwanegodd: "Ni ddylai unrhyw un gamfarni effaith Covid ar y diwydiant awyrofod, rhan hollbwysig o economi Cymru.
"Mae'r sector mewn argyfwng ac mae angen i lywodraeth y DU weithredu'n gyflym a chadarn i achub i diwydiant a'r gadwyn gynhyrchu.
"Mae clychau larwm wedi seinio ers wythnosau ac mae angen gweithredu ar frys ar lefel y DU i atal yr argyfwng rhag mynd yn waeth fyth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020