Gohirio'r chwilio am gwch pysgota sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
Cwch
Disgrifiad o’r llun,

Llun diweddar o'r Nicola Faith yn harbwr Conwy

Mae badau achub, hofrennydd ac awyren wedi bod yn chwilio am gwch pysgota sydd heb ddychwelyd i ogledd Cymru.

Y gred yw mai enw'r gwch sydd ar goll yw'r Nicola Faith a bod tri o bobl ar ei bwrdd.

Fe wnaeth fethu a dychwelyd i harbwr Conwy dros nos wedi iddi adael yr un harbwr ddydd Mercher 27 Ionawr.

Toc wedi 21:00 nos Iau dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau bod y gwaith o chwilio amdani wedi cael ei gohirio am y tro.

Ychwanegodd y bydd y chwilio'n ailddechrau wrth i'r haul godi fore Gwener.

'Chwilio ardal eang'

Roedd y criwiau wedi bod yn chwilio'r môr rhwng Llandudno a Llanddulas, Sir Conwy, ac ardal arall ger Ynys Môn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI bod "pryderon am gwch pysgota a thri o bobl sydd heb ddychwelyd" i ogledd Cymru.

"Roedd y llong wedi gadael Conwy, ar arfordir gogleddol Cymru, ddoe. Roedd disgwyl y llong yn ôl yn y porthladd am hanner nos neithiwr."

Dywedodd Rob Priestley, rheolwr ar ddyletswydd Gwylwyr y Glannau: "Rydym yn parhau i chwilio ardal eang i geisio dod o hyd i'r llong hon gyda'r holl asedau sydd ar gael inni.

"Rydym hefyd yn gofyn i longau eraill yn yr ardal gadw llygad am unrhyw beth a allai gynorthwyo'r chwilio hefyd. "

Cafodd criwiau eu galw am 10:30 fore Iau, ac roedd badau o Landudno, Conwy, Y Rhyl a Chaergybi yn rhan o'r "digwyddiad o bwys".

Yn ddiweddarach fe wnaeth bad achub arall o Fiwmares ymuno yn y chwilio, a hynny mewn ardal arall yn ymyl Ynys Seiriol - ger Ynys Môn.

Fe ddywedodd yr RNLI ei bod yn anarferol dros ben i gael chwe bad achub yn rhan o'r un digwyddiad ar yr un pryd.

Roedd hofrennydd o Gaernarfon ac awyren o Doncaster hefyd yn cynorthwyo yn y gwaith o chwilio am y cwch.