'Llais' y Prif Weinidog i'r gymuned fyddar
- Cyhoeddwyd
Mae Cathryn McShane-Kouyaté wedi dod yn wyneb cyfarwydd i ni yn ystod y pandemig. Hi yw un o'r tri sydd yn natganiadau Llywodraeth Cymru i'r wasg, yn dehongli'r cyhoeddiadau, y cwestiynau a'r atebion mewn iaith arwyddo.
Daw Cathryn yn wreiddiol o Sir Benfro ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae hi'n gweithio fel dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain (BSL) llawrydd ers dros 15 mlynedd, gan gynorthwyo pobl fyddar ym mhob agwedd o fywyd, o apwyntiadau meddygol, i gyfweliadau ac ymweliadau â'r theatr.
Ers mis Mawrth 2020, mae Cathryn wedi ymddangos ar ein sgriniau yng nghynadleddau'r wasg gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio cael dehonglydd BSL i arwyddo'u cynadleddau nhw, ond mae Cathryn wedi bod wrthi i Lywodraeth Cymru o'r dechrau un, gwasanaeth hanfodol i'r gymuned fyddar, meddai Cathryn.
"Dydi nifer o bobl ddim yn deall fod BSL yn iaith gyntaf i lot o bobl, ac mae Saesneg yn ail iaith, ac yn ail iaith gyda llawer o fylchau ynddo.
"Oherwydd addysg plant byddar yn y gorffennol, mae gan lot o oedolion byddar oedran darllen tua wyth mlwydd oed. Felly dydi isdeitlau ddim digon i lot o bobl byddar.
"Ar gyfer gwybodaeth bwysig, mae hi mor bwysig cael dehonglydd BSL hefyd."
Mae yna dri dehonglydd yn gweithio yn y cynadleddau bellach, ond dim ond Cathryn oedd yn gwneud ar y dechrau, a oedd yn drwm iawn iddi, meddai.
"Mae'n intense iawn. Fel arfer, mae'n awr o leia', a weithiau os mae 'na newyddion mawr, a lot o gwestiynau, weithiau mae e'n awr a hanner, a mae e'n lot.
"Fel arfer, dwi'n cael golwg ar y sgript, ond weithiau mae'n funud olaf, a dydi hi ddim yn bosib i baratoi ar gyfer y cwestiynau.
"Dwi wedi arfer nawr, ond mae'n teimlo'n ffug achos dwi'n arwyddo i gamera. Fel arfer dwi'n arwyddo i berson sy'n rhoi nod neu ddangos gyda'i wyneb os ydyn nhw ddim yn deall a dwi'n gallu newid. Mae'n fwy naturiol. Mae jest sefyll 'na yn arwyddo i gamera yn anodd heb yr adborth 'na gan berson go iawn."
Gweithio mewn tair iaith
Cathryn yw un o'r ychydig bobl yng Nghymru sydd yn ddehonglydd sy'n gweithio yn y dair iaith; BSL, Cymraeg a Saesneg. Nid oedd llawer o alw am hyn yn y gorffennol, meddai, ond yn ddiweddar mae mwy o achosion lle mae hi angen defnyddio'r daith iaith, fel mae hi yng nghynadleddau'r Llywodraeth. Mae ei haml-ieithrwydd yn dod yn ddefnyddiol iawn, a hynny am resymau annisgwyl.
"Yn ddiweddar, roedd person byddar eisiau mynd ar gwrs rheoli ond methu gwneud y dyddiad Saesneg, felly es i gyda nhw i'r cwrs Cymraeg. Felly 'nes i'r holl gwrs iddyn nhw o Gymraeg i BSL - weithiodd e'n grêt!
"Yr unig ddiffyg oedd gyda'r flipcharts, felly o'n i'n tynnu lluniau o'r sgrifen ac yn eu cyfieithu i'r Saesneg gyda'r nos."
'Wastad rhywbeth newydd i'w ddysgu'
Dechreuodd Cathryn ddysgu iaith arwyddo pan symudodd hi i Gaerdydd i'r brifysgol, ac eisiau dod i 'nabod pobl a chael rhywbeth i'w wneud mewn dinas ddieithr. Syrthiodd mewn cariad â'r iaith, meddai, a llwyddodd i ddod yn rhugl o fewn rhyw chwe blynedd, ond fel mae hi'n ei bwysleisio, mae angen llawer o ymarfer.
"Mae hi'n bwysig i unrhyw un sy'n dysgu iaith arwyddion gwrdd â phobl fyddar ac ymuno â'r gymuned, achos does yna ddim gwlad fyddar - dydi hi ddim fel pan ti'n dysgu Ffrangeg a mynd i Ffrainc ac aros am dipyn a chlywed yr iaith. Gyda iaith arwyddo, mae angen cwrdd â phobl byddar a chysylltu â'r gymuned fyddar i ddysgu go iawn.
"Mae'n bosib dysgu jest gyda gwersi neu ar-lein, ond fyddech chi byth yn rhugl y ffordd 'na.
"Dwi dal yn dysgu nawr. Dwi'n defnyddio BSL bob dydd, ond mae 'na wastad rhywbeth newydd i'w ddysgu."
Amrywiaeth
Yn 2006, penderfynodd ddechrau dehongli BSL fel swydd llawn amser, ac mae digon o wahanol fathau o swyddi ar gael i'w chadw hi'n brysur, meddai.
"Dwi'n 'neud lot o wahanol fathau o aseiniadau. Dwi'n gweithio mewn gwahanol weithleoedd; mewn cyfarfodydd, sesiynau un i un, hyfforddiant. Heddiw 'nes i gyfweliad ar gyfer swydd newydd. Dwi'n gweithio yn y llys a gyda'r heddlu, a phethau fel apwyntiadau gyda'r meddyg ac ysbyty.
"Cyn Covid o'n i'n gwneud lot o waith yn y theatr - o'n i'n gwneud lot o waith gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn dehongli sioeau.
"Cymysgedd, a dyna be' dwi'n hoffi am y swydd. Mae pob wythnos yn wahanol. Ac mae'n swydd dda i rywun sy'n fusneslyd - ti'n gweld tu mewn i fywydau pobl!"
Ond fel mae hi'n ei bwysleisio, mae angen i'w chleientiaid hi ymddiried yn Cathryn, oherwydd ei bod hi'n dysgu gymaint bywydau nhw.
"Mae polisïau confidentiality yn bwysig iawn, achos, falle fydda i un wythnos yn mynd i'r banc gyda rhywun, wythnos wedyn i'r ysbyty, wythnos wedyn yn ei weithle - mae'n lot o wybodaeth i'w wybod am rywun. Felly mae'r trust yn bwysig iawn."
Heriau newydd
Mae cyfnod y pandemig wedi dod â nifer o dermau gwahanol i'n geirfa, rhywbeth oedd yn rhaid i Cathryn geisio dod drosto yn ystod y cynadleddau, wrth i ddatblygiadau newydd gael eu cyflwyno yn rheolaidd.
Gydag amser, mae'r gymuned yn datblygu arwyddion pan mae pobl yn siarad am wahanol bynciau."
"I ddechrau, o'n i'n sillafu furlough, ac yn arwyddo eglurhad am beth yw ystyr y gair. Ond ar ôl dipyn, yn y gymuned, roedd arwydd newydd wedi datblygu am furlough roedd y gymuned yn gyfarwydd â fe, felly dwi'n gallu defnyddio'r arwydd yna.
"Lateral test yn un arall. Y ffordd o'n i'n arwyddo lateral test oedd i'w sillafu a wedyn gwneud arwydd i ddisgrifio siâp y peth, neu sillafu'r gair ac egluro mai dyma yw'r prawf cloi ond syml.
"Gydag amser, mae'r gymuned yn datblygu arwyddion pan mae pobl yn siarad am wahanol bynciau, ac mae arwyddion yn datblygu. Mae'n bwysig defnyddio'r arwydd mae cytundeb drosto."
Felly mae cyfnod y pandemig yn sicr wedi dod â'r heriau i Cathryn, a phan dyw pethau ddim wastad yn mynd yn esmwyth, mae hi'n gorfod meddwl yn sydyn ar ei thraed:
"Roedd ysgolion wedi cau am y tro cyntaf. O'n i gyda Kirsty Williams, ac yn un o'r cwestiynau, ro'n i wedi clywed 'will the hubs be closing?' Pan oedd hi'n cario 'mlaen, o'n i'n sylweddoli... 'dydi hi ddim yn siarad am hubs, mae hi'n siarad am pubs...'!
"Felly oedd rhaid i fi fynd yn ôl ac ail-ddweud pethau yn gyflym iawn!
Ac ar ddiwedd hyd at awr a hanner o ddehongli datganiadau cymhleth, cwestiynau anarferol a cheisio egluro termau newydd sydd heb arwydd iddyn nhw eto, ydi hi wedi llwyr ymladd?
"Dydi fy nwylo ddim yn blino," meddai, "ond mae fy mhen!"
Hefyd o ddiddordeb: