Dod o hyd i arsenig yn waliau eglwys restredig Gradd II*
- Cyhoeddwyd
Cafodd cadwraethwyr syndod wrth ddarganfod cemegyn gwenwynig dan baent waliau eglwys wag yng Ngheredigion.
Daeth i'r amlwg fod arsenig ym muriau eglwys San Mihangel yn Nhremain, ger Aberteifi, fel rhan o waith adnewyddu.
Dangosodd profion fod yr arsenig bellach yn anadweithiol o ganlyniad i gael ei orchuddio â haenau o baent a gwyngalch.
Ond dywed yr elusen Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, sy'n gofalu am yr eglwys ers 2013: "Fyddan ni ddim yn sandio'r waliau ar frys am sbel eto."
'Gwyrdd marwol yn llechu'
Roedd hynny yn sgil darganfod haenau "gwyrdd marwol yn llechu dan y gwyngalch" ym muriau'r gangell - yr ardal o amgylch yr allor mewn eglwys.
O astudio sampl dan feicrosgop, daeth "paent gwyrdd tywyll, cyfoethog" i'r amlwg, dan haenau gwyrdd mwy golau a gwyn.
Roedd yn arfer i ddefnyddio arsenig i gynhyrchu rhai lliwiau gwyrdd mewn paent a phapur wal yn yr 18fed a'r 19eg Ganrif.
Un o'r cwmnïau i wneud hynny oedd Morris & Co, sy'n boblogaidd hyd heddiw.
Yn y 1860au cafodd marwolaethau nifer o blant eu cysylltu â phapur wal, ac fe wrthododd y sylfaenydd, William Morris â derbyn eu bod wedi'u gwenwyno.
Ond ildiodd i'r farn gyhoeddus yn y pen draw a dechrau gwerthu papur wal heb arsenig.
Newidiodd y ffasiwn o ran lliwiau paent a dulliau cynhyrchu dros y blynyddoedd, ond mae cadwraethwyr yn dal yn pwyllo wrth ddod ar draws haenau papur wal â lliwiau gwyrdd neilltuol wrth adnewyddu hen adeiladau.
'Prin' mewn eglwysi
Cafodd Eglwys San Mihangel ei dylunio gan y pensaer John Jones a'i chodi ar safle eglwys flaenorol yn y 19eg Ganrif. Cafodd statws rhestredig Gradd II* yn 2009.
Daeth yr arsenig i'r amlwg ddwy flynedd yn ôl, ond dim ond yn ddiweddar y cyhoeddodd Cyfeillion Eglwysi Digyfaill unrhyw beth amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaethon nhw benderfynu gwneud hynny wrth baratoi'r eglwys ar gyfer gwaith i'r llawr a'r seddau.
Mae'r elusen yn gofalu am o gwmpas 60 o hen eglwysi gwag yng Nghymru a Lloegr. Yn ôl y cyfarwyddwr, Rachel Morley, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddod ar draws y cemegyn.
"Pan roedd yn gynnyrch newydd, fe fyddai wedi bod yn ddrytach," meddai.
"Felly rwy'n meddwl ei fod yn eithaf prin, mwyaf tebyg, mewn eglwysi, ond fe gafodd yr eglwys [yn Nhremain] ei hailwampio eithaf tipyn tua'r adeg hynny felly yn amlwg roedden nhw am iddi edrych yn eithaf drudfawr."
Wedi'r darganfyddiad yn y gangell, cafodd asesiad ei gynnal ar y paent a'r haenau o blastr.
"Daeth yr arbenigwyr i'r casgliad fod y gwyrdd arsenig wedi'i orchuddio'n gyfan gwbl maes o law gan haenau o baent olew a gwyngalch," medd yr elusen, a'r arsenig, o ganlyniad, "yn anadweithiol".
Ychwanegodd: "Mae'n hollol ddiogel yn yr eglwys nawr, ond byddwn yn monitro cyflwr y paent a'r plastr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020