Troi at ariannu torfol i roi bywyd newydd i hen gapel

  • Cyhoeddwyd
Llithfaen

Mae grŵp cymunedol ym Mhen Llŷn yn gofyn i'r cyhoedd eu helpu i droi hen gapel yn Llithfaen yn ganolfan ddiwylliannol.

Tra bod ymgyrch Hafod Ceiri yn ceisio am nifer o grantiau i gwblhau'r gwaith, maen nhw hefyd wedi agor tudalen JustGiving gyda tharged o £10,000 er mwyn helpu i gwrdd â'r costau.

Y bwriad ydy troi Capel Isaf, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn gartre' i bob math o weithgareddau celfyddydol, hanesyddol a chymdeithasol.

Mae 'na ymdrechion ers blynyddoedd i ailddatblygu Capel Isaf a grantiau bellach wedi galluogi dechrau'r gwaith o drwsio'r to a'r nenfwd.

Ond gyda'r biliau'n pentyrru, mae'r grŵp wedi penderfynu troi at ariannu torfol i gwrdd â'r costau cynyddol.

"Ma' rhywun yn meddwl 100 mlynedd yn ôl bod y capel yma 'di costio £3,000 - mi gostith dros £3,000 jyst i drwsio'r drws ffrynt rŵan," meddai Sianelen Pleming, ysgrifennydd prosiect Hafod Ceiri.

"'Da ni angen canolfan ddehongli Tre Ceiri, sy'n fryngaer wrth ymyl pentre' Llithfaen. Mae'n enwog drwy Ewrop, mae 'na bobl yn cerdded yma a ddim yn gw'bod yr hanes.

"Hefyd mi fydd 'na hanes y chwareli a'r amaethyddiaeth ac yn y blaen. Mi fydd 'na gaffi bach yma ac mi fydd 'na lot o weithgareddau yn deillio o hynny."

"Ma' Llithfaen yn bentre' lle mae 'na dipyn o bethau cydweithredol yn digwydd. Tafarn y Fic ydy'r dafarn gydweithredol hyna' yn Ewrop, mae 'na siop gymunedol yn cael ei rhedeg gan griw o wirfoddolwyr.

"Dwi'n meddwl bod hynny'n creu momentwm yn ei hun a wedyn mae 'na fwy o deuluoedd ifanc yn dod yma oherwydd bod gynnon ni siop a thafarn. Fydd hwn yn adnodd ychwanegol fydd hefyd yn helpu'r siop a'r dafarn yn y pendraw achos fydd 'na fwy o fwrlwm yma."

Dywedodd bod y fenter wedi derbyn arian gan y Garfield Weston Foundation, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Gwynedd ar gyfer y gwaith o ddiogelu'r to.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Capel Isaf ei godi yn 1905

Yn addoldy i Fethodistiaid Calfinaidd yr ardal ers 1905, y gobaith ydy parhau i gynnal gwasanaethau yno a chadw'r capel yn ganolog i'r pentre'.

Mae Trysorydd Capel Isaf, Ann Roberts, yn falch o weld bydd hanes y capel yn cael ei gadw'n fyw.

"Yn y capel yma nes i briodi 'ngŵr Dafydd yn 1989, fa'ma briododd fy chwaer-yng-nghyfraith.

"Jyst lot o hwyl d'eud gwir - mae ganddon ni Ysgol Sul reit llewyrchus 'di bod yma ers rhyw 25 mlynedd ac mae'n neis gweld plant i blant yr aelodau gwreiddiol yn dod yma pan o'ddan ni'n medru cynnal pethau cyn Covid. Roedd 'na glwb ieuenctid llewyrchus iawn yma ar un adeg.

"Mae 'di bod yn rhan bwysig o'r pentre' dwi'n meddwl ond 'doedd 'na ddim digon ohonan ni i gynnal yr adeilad, o'dd hi'n mynd yn gostus ofnadwy.

"Felly mae'n neis bod ni ddim yn gorfod poeni amdano fo rŵan. Mi fydd 'na ran o'r adeilad yn dal i fod yn addoldy.

"Dwi'n meddwl bod o'n codi calon pobl yn gweld hen adeilad fel yr un yma'n cael ei ddefnyddio."

'Gwneud rhywbeth go iawn'

Ar ôl blynyddoedd o waith paratoi mae Sianelen Pleming yn falch o weld y gwaith atgyweirio yn dechrau o'r diwedd.

"Mae'n braf yn lle bod rhywun yn llenwi ffurflenni ac athronyddu a breuddwydio, bod rhywun yn medru gweld pobl yn mynd efo plastar a brics i wneud rhywbeth go iawn," meddai.

"'Da ni'n gobeithio byddwn ni'n gallu agor mewn rhyw wedd flwyddyn nesa' - ond ma' eisiau cael yr arian yn ei le a'r Covid 'ma, cael rhyw fath o frechlyn fel bod ni'n gallu cyfarfod wyneb yn wyneb yma eto."