Covid-19: 737 achos newydd a 23 marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cafodd 737 achos a 23 marwolaeth yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn.
Mae'n golygu bod 191,677 o achosion positif wedi'u cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Mae 4,720 o bobl bellach wedi marw gyda'r haint hefyd.
Yn y cyfamser, mae 378,200 o bobl yng Nghymru wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19.
Roedd ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru - a gyhoeddwyd amser cinio ddydd Sadwrn - hefyd yn dweud bod 750 o bobl wedi derbyn dau ddos.
Mae 69.1% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf erbyn hyn.
Ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y cynllun brechlynnau yn mynd o nerth i nerth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021