£9m i helpu iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Hannah Catrina DaviesFfynhonnell y llun, Hannah Catrina Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw byw gyda phroblemau iechyd meddwl ddim yn hawdd o bell ffordd," medd Hannah Catrina Davies

"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd... mae llawer o bethau positif wedi dod mas o'r flwyddyn ond eto fi'n teimlo fel bo' fi ddim really wedi 'neud unrhyw beth i fod yn browd ohono. Diwrnod cyntaf 2021 - o'n i'n teimlo'n isel iawn."

Dyna brofiad, dolen allanol Hannah Catrina Davies, 20 oed o Landysul, ond nid yw ei phrofiad hi'n unigryw.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Eluned Morgan, gyllid o fwy na £9m i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru "oherwydd y lefelau uwch o orbryder yng Nghymru yn ystod y pandemig, a'r cynnydd a ragwelir mewn problemau iechyd meddwl".

Mae tri o bob pedwar person ifanc wedi dweud wrth arolwg gan Mind Cymru, dolen allanol bod eu hiechyd meddwl yn waeth yn ystod misoedd cynnar y pandemig.

Roedd un o bob tri pherson ifanc a geisiodd gael cymorth iechyd meddwl yn methu gwneud hynny, medd yr arolwg.

Mae ymchwil pellach gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Phrifysgol Abertawe, dolen allanol yn dweud bod bron i saith o bob 10 o bobl yn eu harddegau ym Mhrydain yn ofni y bydd y pandemig yn gwneud y dyfodol yn waeth i bobl eu hoedran nhw.

Profiad Hannah Catrina Davies

Ffynhonnell y llun, Hannah Catrina Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gwybod mai nid fi'n unig sy'n cael problemau iechyd meddwl," medd Hannah

"Fi wedi bod yn byw gydag iselder a gorbryder ers bron i dair blynedd nawr, a chefais fy diagnoso ym mis Medi, 2018.

"Bues i ar anti-depressants i fyny at Chwefror 2019. Do'n i ddim wedi gweld yr angen i ofyn am gael nhw nôl am dros flwyddyn a hanner achos o'n i'n teimlo'n llawer gwell a chryfach yn fy hun," medd Hannah Catrina.

"Yna, daeth y lockdown. Roeddwn i'n teimlo'n dda yn ystod y misoedd cyntaf, ac wrth edrych nôl nawr, roedd angen y brêc yna arna i, bant o 'bywyd normal' i jyst 'switcho off' o bob dim.

"Unwaith des i'n gyfarwydd gyda beth oedd yn digwydd - lockdown, Covid-19, ac yn y blaen... 'nes i ddechrau cael cwpl o blips neu ups and downs lle weithiau bydden i'n gorfeddwl pethau ac yn gweithio'n hunan lan llawer.

"Fi 'di bod yn teimlo'n isel ac yn bryderus iawn ers y 1af o Ionawr, a fi'n gwybod bod e'n mynd i fod yn anodd i ddod allan o'r sefyllfa hyn fi mewn. Mae e'n teimlo fel bo' fi'n treial dod allan o quicksand

"Sai'n gwybod pam, ond fi'n teimlo cywilydd am y ffaith bod fi'n dost eto. Fi'n gweld e'n anodd siarad gydag unrhyw un am fel fi'n teimlo, beth sy'n mynd trwy meddwl fi, beth sy'n poeni fi, a sai'n gwybod pam. Fi wedi bod yn teimlo fel hyn ers y lockdown cyntaf. Pam?

"Fi'n gwybod galla i ddod trwyddo hwn eto. Does yna neb yn fy marnu nac yn mynd i fy marnu, a dyw byw gyda phroblemau iechyd meddwl ddim yn hawdd o bell ffordd, ond nid fi yw'r unig un."

Dywed Llywodraeth Cymru bod y cyllid ychwanegol, sy'n cael ei gyhoeddi ar ddechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, yn cydnabod effaith bod i ffwrdd o'r ysgol a rhwydweithiau cymorth rheolaidd ar bobl ifanc yn ystod y pandemig.

Mae'r arian yn rhan o'r £42m o wariant ychwanegol y llywodraeth ar gyfer cymorth iechyd meddwl.

Bydd yr arian ychwanegol yn benodol yn cael ei wario ar wella mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol mewn ysgolion, a bydd £5.4m yn cael ei roi i CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed).

Bydd hefyd mwy o gwnsela a chymorth emosiynol ar gael i blant ysgol.

'Cymorth cywir ar yr adeg gywir'

Dywedodd Eluned Morgan fod y "buddsoddiad sylweddol" yn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig yn ei gael ar blant a phobl ifanc.

"Rydym yn deall y gall cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, mewn llawer o achosion, atal effeithiau andwyol tymor hwy, a dyna pam rydym yn rhoi blaenoriaeth i hyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd bod "tua £4m [o'r arian] yn cael ei wario mewn ysgolion i helpu i ddatblygu, ac i sicrhau bod y plant yn gw'bod bod yr help ar gael yn yr ysgolion".

"Bydd hwn yn helpu hyfforddi athrawon i ddeall beth sydd o'i le, neu os ydyn nhw yn gallu helpu rhyw ffordd."

Mae'r £5m sy'n weddill, meddai, "yn ychwanegol i helpu rheini gyda problemau mwy dyrys falle bydd angen help arnyn nhw falle yn fwy, yn yr adran iechyd".

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae sicrhau bod cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gael i'n plant yn hanfodol os ydynt am dyfu i fod yn unigolion iach a hyderus.

"Fel rhan o'n dull ysgol gyfan, rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn yr ysgol a thu allan i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod lle i fynd am gymorth emosiynol ac yn teimlo'u bod yn cael digon o gefnogaeth.

"Bydd y cyllid o £4m yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r rhaglen hon a bydd yn gwella'r adnoddau a'r gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y cyfnod heriol hwn."

Mae rhestr o linellau ffôn a gwefannau cymorth yma, dolen allanol.