Beth sydd 'di digwydd i yrfa Gareth Bale?

  • Cyhoeddwyd
gareth baleFfynhonnell y llun, ANDY RAIN

Pan ymunodd Gareth Bale â Chlwb Pêl-droed Real Madrid yn 2013 am £85.3m, fo oedd y chwaraewr drytaf yn hanes y gêm.

Ond wedi dechreuad da yn Sbaen, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith, fe drodd pethau yn sur i'r Cymro. Wedi 105 o goliau i Real mewn 251 gêm, yn 31 oed mae Bale bellach nôl ar fenthyg gyda'r clwb ble wnaeth ei enw, Tottenham Hotspur.

Ond pam fod ei yrfa wedi dioddef dros y blynyddoedd diweddar - ac oes unrhyw obaith y gwelwn ni Bale nôl ar ei orau?

Rhywun a oedd yng ngharfan Cymru efo Gareth Bale oedd y cyn-chwaraewr ganol cae o Fangor, Owain Tudur Jones.

Y dyddiau cynnar

Dwi'n gwybod bod o'n hawdd dweud rŵan, o feddwl beth mae Gareth Bale 'di mynd mlaen i'w gyflawni, ond oeddan ni'n gwybod, i unrhywun oedd yn gallu ymarfer efo Gareth dros gyfnod o amser... roedd hi'n fraint, oherwydd roedd y boi yn chwarae ar lefel hollol wahanol.

'Da ni 'di gweld Joe Allen yn serennu, Aaron Ramsey yn cael gyrfa wych efo clybiau anferth, ond i ni gyd roedd Gareth Bale jest ar lefel hollol, hollol wahanol. Cyflymder, pŵer... ond dim jest yn athletwr o ran y sgiliau yna, roedd pêl-droed yn dod mor naturiol iddo fo.

Y ffordd orau imi ddisgrifio fo yn ymarfer yng ngharfan Cymru ydi oedd o fel bod o'n chwarae efo plant ysgol. Os fyswn i'n chwarae efo plant ysgol rŵan, yn chwerthin a gwenu a driblo heibio nhw a sgorio gôl pryd bynnag o'n i ishio... wel dyna sut oedd o efo ni.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Owain Tudur Jones saith cap dros Gymru rhwng 2008 a 2013

Roedd ganddo y ddawn naturiol pêl-droed a'r cyflymder, ond hefyd roedd o'n chwaraewr clyfar. Roedd ei ddealltwriaeth o'r gêm yn dactegol yn wych, a dyna pam 'sa fo 'di gallu chwarae yng nghanol yr amddiffyn, yng nghanol cae, neu rhywle, a 'sa fo'n gwneud yn grêt - roedd ganddo fo bob dim.

Symud i Real Madrid

Mi 'nath o newid ei gêm yn Real o ran ei safle. Pan oedd o yn Spurs oedd o'n crwydro - weithiau'n chwarae tu ôl i'r ymosodwr, weithia ar y dde, ond o'r dyddiau da rydyn ni'n gofio ohono roedd o'n chwarae ar yr asgell chwith.

Pan aeth o i Real Madrid, a gath o lot o lwyddiant, asgellwr ar y dde oedd o, ac yn naturiol oherwydd y droed chwith a'r ffordd mae pêl-droed yn cael ei chwarae dyddia' yma, mi roedd Gareth yn gallu dod tu fewn ac ergydio o bell yn amlwg am adio goliau i'w gêm o.

Ffynhonnell y llun, GERARD JULIEN
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn Stadiwm Santiago Bernabéu gyda'i deulu ar y diwrnod arwyddodd dros Real Madrid

Efo clwb fel Real Madrid, be 'di bobl ddim yn sylwi 'fallai ydi bod y pwysau'n hollol wahanol - allai ond dychmygu be' fysa'r pwysau o chwarae i glwb enfawr lle mae llygaid y cefnogwyr arna chdi bob eiliad ti ar y cae, ac hefyd oddi ar y cae.

Y driniaeth gan gefnogwyr Real

'Da ni'n sbio ar bethau o'r tu allan, ac yn naturiol 'da ni am fod yn un-llygeidiog am resymau amlwg. I fi, Gareth Bale ydi'r chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru erioed, heb os nac oni bai. Roedd gyrfa Ryan Giggs yn anhygoel, o ran be' enillodd gyda Manchester United ac ati. Ond o ran be' ma' 'di gyflawni i Gymru dwi'm yn meddwl bod 'na neb yn dod yn agos i Gareth Bale.

Felly yn naturiol wedyn pan 'da ni'n gweld rhywun sydd wedi cynnig gymaint i'w wlad yn cael ei gamdrin gan glwb lle mae o wedi cael llwyddiant yna hefyd, ti'n meddwl c'mon 'di hyn ddim yn iawn!

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale ac Owain yng ngharfan Cymru yn ystod cyfnod John Toshack wrth y llyw

Ond y gwir ydi mae'r byd pêl-droed yn ruthless, ac os wyt ti ddim yn perfformio, ti ddim yn y tîm - dydi hynny ddim yn newid pwy bynnag wyt ti. Dwi'n meddwl bod o'n haws gweld efo sut mae 'di mynd iddo yn Spurs hyd yn hyn... os mai dyna oedd y perfformiadau roedd o'n rhoi i Real Madrid, wel ti'm yn mynd i ffeindio dy hun yn y tîm yn rheolaidd.

Dydi o ddim yr un chwaraewr ag oedd o yn ei gyfnod cyntaf gyda Spurs. Ond mae o dal ynddo fo, ac y cyfan mae Cymru angen gan Gareth Bale ydi'r eiliadau 'na - y gôl hollbwysig yna yn erbyn Croatia, does na'm llawer o bobl fyddai wedi sgorio honna, a dwi'm yn meddwl 'sa ni 'di cyrraedd yr Euros heb honna.

Y berthynas â Zinedine Zidane

Roedd Zidane yn un o fy hoff chwaraewyr i, ac mae o dal i fod - nes i ddim ddechrau casáu o fel mae rhai o gefnogwyr Cymru 'di gwneud. Oedden ni eisiau gweld ein harwr ni'n cael ei drin 'chydig bach yn well, ond dweda bod Alex Ferguson yn ei adael o ar y fainc 'falle bydda cefnogwyr yn dweud 'ah mae o'n gwybod be mae'n wneud'.

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zinedine Zidane yn reolwr ar dîm cyntaf Real Madrid ers 2016, ac mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr tair gwaith ers cymryd yr awenau

Dwi'n ffeindio hi'n ddoniol weithiau faint mae cefnogwyr yn meddwl 'pam fod hwn ddim yn chwarae?' 'mae'n disgres!'... ond y rheolwyr sy'n gweld y chwaraewyr yma bob diwrnod, a dwi'n meddwl os fysa Bale ar dân bob tro oedd o'n ymarfer neu'n chwarae dros Real Madrid, mae'r ddawn sydd ganddo'n ormod i'w adael allan.

Felly o safbwynt y rheolwr doedd o ddim yn gweld cweit digon i'w gymharu efo be oedd y chwaraewyr eraill yn gynnig.

Gadael am glwb llai?

Ti'n gorfod dallt dy rôl o fewn clwb, a dwi'n siŵr oedd Gareth yn dallt hynny tra'n Madrid. Pan oedd Bale efo Spurs fo oedd 'Y dyn', ac mi roedd y rheolwr Harry Redknapp yn dweud wrth y chwaraewyr eraill "just give the ball to Gareth", a dyna be mae o 'di bod i Gymru hefyd, gan obeithio neith o dynnu ni allan o drwbl fel ma' 'di gwneud sawl gwaith.

Dwi'm yn gwybod os eith o nôl i Real - mae'n annhebygol fydd o dal yn Spurs ar ôl y tymor yma. Ella mai mynd at glwb 'chydig bach llai fel mai fo 'di'r prif ddyn ydi'r ateb.

Ffynhonnell y llun, Tom Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Bale ddwywaith yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl yn 2018. Mae ei gôl gyntaf o'r noson yn cael ei ystyried gan lawer fel un o'r goliau gorau yn hanes y gystadleuaeth.

Rheswm dros y gwymp yn safon gêm Bale?

O fewn pêl-droed maen nhw'n dweud bod chwaraewyr ar frig eu gêm yn 27, 28 neu 29. Myth llwyr 'di hynny yn fy marn i achos mae gan bob chwaraewr unigol eu peak gwahanol. I rai 'di hi ddim yn mynd dim gwell na phryd ma' nhw'n 14 oed ar y cae ysgol, ble nhw di'r mwya' ar y cae a nhw 'di'r chwaraewr gorau. Ond wedyn mae pawb arall yn dal fyny ac ma'r fflam yna'n diffodd.

Messi a Ronaldo ydi'r unig ddau dwi 'di gweld efo'r cysondeb o fod bron yn child superstar i gadw'r safon yn eu 30au. I bawb arall, a dwi'n cynnwys rhywun fel Wayne Rooney a ddechreuodd yn 16 oed, dim yn aml ydan ni'n gweld cysondeb dros 20 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Angel Martinez - Real Madrid
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei gyfnod gyda Real mae Bale wedi ennill 13 tlws, gan gynnwys 'La Liga' Sbaen ddwywaith a phedair Cynghrair y Pencampwyr

Efallai mai peak Gareth Bale oedd yn ei ugeiniau cynnar/canol. Rydan ni rŵan jest yn aros i weld beth fydd y Gareth Bale nesa, achos os ydi o am barhau i chwarae ar y lefel uchaf bydd rhaid iddo addasu ei gêm fel 'nath Giggs a Ronaldo.

Falle bod Gareth Bale wedi colli llathen o gyflymder, ond mae Bale sydd 'di colli dwy lathen o gyflymder dal yn gyflymach na'r rhan fwyaf o bêl-droedwyr. Ar hyn o bryd mae gwylio Bale yn chwarae'n deimlad eitha' trist, oherwydd ti jest yn meddwl bob tro mae o'n cael y bêl os mai hwn fydd 'y foment' neu'r sbarc.

Dwi ddim yn gwybod os ydi o'n rhywbeth o ran hyder, ac ydi o angen hyfforddwr fel Chris Coleman neu Harry Redknapp sy'n mynd i roi braich rownd fo a dweud 'bob tro ti'n cael y bêl cer rownd yr amddiffynnwr, os ti'n cael dy daclo bump, chwe, saith gwaith paid poeni, achos 'da ni dal yn mynd i fwydo chdi achos mae gennym ni ffydd ynddo chdi.'

Ffynhonnell y llun, Mark Runnacles
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei yrfa bêl-droed fe chwaraeodd Owain Tudur Jones dros Abertawe, Norwich ac Hibernian ymysg timau eraill. Ac fel Bale, cafodd Owain nifer o anafiadau drwy gydol ei yrfa, cyn iddo ymddeol yn 2015

Oes ganddo fo hyder yn ei gorff ei hun? Ar lefel gwahanol dwi'n gwybod sut beth ydi bod yn bêl-droediwr oedd ddim yn gallu gwneud pethau oedd yn bosib ei wneud ychydig flynyddoedd ynghynt, oherwydd anafiadau.

Ar hyn o bryd 'da ni ddim yn gweld yr elfen greadigol oedden ni'n ei garu am Bale - 'sa fo 'di gallu 'pingio' pêl 70 llath dros y cae neu fynd heibio tri chwaraewr lawr yr asgell a sgorio.

'Cymru, Golff, Madrid'... y blaenoriaethau cywir?

Allai uniaethu a chydymdeimlo efo fo. Dwi erioed 'di chwarae gymaint o golff na 'nes i tra o'n i'n chwarae i Norwich. Fysa rhywun yn clywed hynny'n gallu dweud 'wel dyna pam nes di ddim chwarae gymaint â hynny o gemau'. Ond y gwir ydi do'n i ddim yn y tîm am un rheswm neu'r llall.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedodd cyn-chwaraewr Real Madrid, Pedja Mijatovic mai blaenoriaethau Gareth Bale oedd Cymru, golff, ac yna Madrid....felly roedd 'na ymateb chwyrn pan ddathlodd Bale Cymru'n cyrraedd Euro 2020 gyda'r baner yma

Do'n i ddim yn chwarae golff diwrnod cyn gêm, o'n i dal yn paratoi yr union yr un fath, ond pan oedd yr amser yn iawn o'n i'n golffio. Odd hynna'n elfen fawr i fi ymdopi efo'r siom bo' fi ddim yn chwarae pêl-droed. Dio ddim mor hawdd â 'gweithia yn galetach yn lle mynd ar y cwrs golff!' - dio'm yn gweithio fel'na. Weithiau ti jest angen rhywbeth yn dy amser sbâr i dynnu dy feddwl oddi wrth sefyllfa sydd ddim cweit yn mynd dy ffordd di.

Tu ôl i'r llenni dwi'n siŵr bod Gareth dal yn caru pêl-droed ac eisiau cyflawni gymaint â phosib yn yr amser sydd ganddo ar ôl. Golff ydy ei ffordd o o ddelio gyda stress- i rai eraill gall fod yn gemau cyfrifiadurol neu taflu eu hunain i fywyd teuluol.

Oes posib 'dropio' Bale?

Mae 'na lot o drafodaeth ynglŷn ag a ddylai Bale fod yn dechrau i Gymru - mi fysa fo yn fy XI i beth bynnag, ac ella bod bobl yn meddwl bo' hynny'n wirion. Ond dwi jest yn meddwl bod o dal yn gallu cynnig rhywbeth does 'na neb arall yn medru.

Ffynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Y tro dwetha i Gareth Bale sgorio dros Gymru (gôl rhif 33) - gôl hollbwysig yn erbyn Croatia, 13 Hydref 2019

Mae'r chwaraewyr i gyd sy'n cael eu galw'n undroppable, mae'r amser yn dod lle mi fyddan nhw yn droppable, 'da ni 'di gweld enghraifft o hynny efo Ashley Williams yn ddiweddar lle o'n i'n meddwl bod ganddo fwy i'w gynnig. Ond chwarae teg i Ryan Giggs, mae'r rheolwr weithiau'n gweld pethau'n wahanol, ac mae 'na fois ifanc yn dod drwyddo.

Os fysa David Brooks neu Dan James yn chwarae'n rheolaidd, yn sgorio ac yn creu goliau yn gyson, ac Aaron Ramsey yr un fath, wel mi fysa yna gwestiwn wedyn. Ond dydyn nhw ddim, felly o feddwl am hynna fyswn i'n dewis Bale.

'Dydi'r stori ddim drosodd'

Dwi jest yn meddwl bod y stori ddim drosodd i Gareth Bale. Dwi'n ei garu o o'r tu allan fel cefnogwr pêl-droed, ac mae'r ffydd dal yna. Dwi'm yn siŵr sut, os 'di'w gêm o'n gorfod cael ei addasu, ond mae 'na dal foment fawr iddo yng nghrys coch Cymru.

Ydi o am ddigwydd o dan Mourinho yn Spurs? Mae'n edrych yn annhebygol ar hyn o bryd, ond 'da ni gyd yn gweddïo a dwi'n meddwl bod 'na lot mwy i ddod.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Hefyd o ddiddordeb: