Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Norwich

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

André Ayew sgoriodd gôl gynta'r gêm yn dilyn camgymeriad gan golwr Norwich, Tim Krul

Mae Abertawe wedi codi i'r safleoedd dyrchafu yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth wych dros Norwich, sydd ar frig y tabl.

Aeth Yr Elyrch ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gydag André Ayew yn manteisio wedi i golwr Norwich, Tim Krul fethu â chadw ei afael ar y bêl yn dilyn cic gornel.

Dyblwyd y fantais ar ddechrau'r ail hanner wrth i Conor Hourihane sgorio gydag ergyd wych o bellter - ei drydedd gôl mewn tair gêm i'r tîm cartref.

Fe allai Norwich fod wedi ymestyn eu mantais ar frig y tabl i saith pwynt gyda buddugoliaeth nos Wener.

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r ail safle yn y tabl, ddau bwynt yn unig y tu ôl i Norwich, sydd wedi chwarae un gêm yn rhagor.