Gwersi wedi'u dysgu wrth i farwolaethau Covid groesi 5,000

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ystod cynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod nifer o wersi wedi'u dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfyngiadau y dylid eu cyflwyno, a phryd.

Fe wnaeth Mr Gething ei sylwadau yng nghynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar y diwrnod y dangosodd ffigyrau newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer y rhai sydd wedi marw gyda Covid yng Nghymru bellach yn 5,001.

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn "ymddiheuro am bob bywyd sydd wedi'i golli" yn y frwydr yn erbyn coronafeirws yng Nghymru ac ychwanegodd mai "nid ffigyrau yn unig" ydy'r rheiny a gollwyd.

Ond mae'n gwadu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "naïf" am beryglon Covid-19 ar ddechrau'r pandemig er y byddai'r llywodraeth "o bosib wedi gweithredu'n wahanol wrth edrych yn ôl".

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd bod y 5,000 o farwolaethau yng Nghymru yn "garreg filltir drist".

Yn ôl Andrew RT Davies mae'r "anghysondeb ynglŷn â'r neges" yn rhannol gyfrifol, gan ddweud nad oedd negeseuon Llywodraeth Cymru yn "ddigon clir a digon amlwg trwy gydol y pandemig".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cyflwyno cyfnod clo "llymach ynghynt" ym Mawrth 2020 ond fe wnaeth e longyfarch y llywodraeth ar y rhaglen frechu a phawb arall sydd wedi bod ynghlwm â'r gwaith.

'Brechu'n mynd o nerth i nerth'

Wrth gyfeirio at y rhaglen frechu dywedodd Mr Gething ei bod yn mynd o nerth i nerth a bod bron i 604,000 o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn.

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn parhau i geisio brechu y rhai yn y pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol Chwefror a bod yna bellach 43 canolfan frechu ar draws Cymru. Yn ogystal mae 400 o glinigau meddygon teulu yn brechu ac mae clinigau mewn 38 ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Nododd ymhellach bod Llywodraeth Cymru yn monitro'r niferoedd sy'n gwrthod y brechlyn er mwyn ceisio sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael eu brechu.

Dywedodd ei fod eisiau sicrhau'r cyhoedd bod y brechlynnau yn "ddiogel i bob ffydd a pob lleiafrif ethnig".

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau bod cyfran llawer uwch o rai lleiafrifoedd ethnig yn gwrthod y brechlyn.

Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y brechlyn yn effeithio ar ffrwythlondeb merched na dynion a dywed ei fod yn bryderus am y camwybodaeth sy'n cael ei rannu ar amrywiol lwyfannau - yn benodol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychwanegodd Mr Gething ei bod yn bosib y bydd angen parhau gyda rhaglen frechu yn erbyn coronafeirws yn y dyfodol, ond nad yw'n amlwg eto a fydd angen hynny.

Daeth hynny wedi iddi ddod i'r amlwg bod brechlyn Rhydychen yn llai effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn o Dde Affrica.

"Rydyn ni wastad wedi dweud y bydd y feirws yn newid, felly ry'n ni'n gwybod o bryd i bryd y bydd yn rhaid i ni ailystyried pethau," meddai.

"Fe allai hynny olygu yn y dyfodol bod angen rhaglen frechu flynyddol fel sydd gennym gyda'r ffliw."

Nifer yr achosion yn gostwng

Mae cyfradd yr achosion dros gyfnod o saith diwrnod bellach oddeutu 116 achos ymhob 100,000 yng Nghymru.

"Ond mae'r darlun yn un amrywiol," meddai Vaughan Gething. "Mae cyfraddau Wrecsam yn 220 achos ymhob 100,000 ond yn gostwng.

"Yng Ngheredigion mae'r gyfradd wedi codi yn ystod y saith diwrnod diwethaf i 56 ymhob 100,000."

Mae nifer y cleifion mewn ysbytai sydd â Covid-19 ar ei isaf ers 8 Tachwedd, ond mae tua 1,000 o gleifion eraill yn parhau i adfer o effeithiau'r feirws yn yr ysbyty.

Tua 9% o gleifion sy'n cael eu derbyn i ysbytai sy'n gleifion Covid-19 bellach, ac am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr mae mwy o gleifion mewn unedau gofal dwys sydd ddim yn dioddef o'r feirws na'r rheiny sydd yn dioddef ohono.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y cleifion mewn ysbytai sydd â Covid-19 ar ei isaf ers 8 Tachwedd

Yn ystod y gynhadledd dywedodd Mr Gething hefyd ei fod yn awyddus i unrhyw un sy'n cael cynnig i fynd am sgan canser i dderbyn y cynnig hwnnw er gwaethaf y pandemig.

"Mae'r GIG wedi gweithio'n galed iawn i gynnal gwasanaeth canser trwy gydol y pandemig - mae ymchwiliadau a thriniaethau yn parhau," meddai Vaughan Gething.

Ychwanegodd y bydd yn cwrdd â'r byrddau iechyd yr wythnos hon er mwyn trafod sut mae modd adfer gwasanaethau canser yn llawn yn y tymor hir.

Unwaith eto pwysleisiodd mai prif neges y llywodraeth yw i bawb aros adref a chadw at y cyfyngiadau er mwyn arbed bywydau.