Cynllun cau pedair ysgol fach 'mor ddinistriol'
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Sir Powys yn dechrau ymgynghoriad ar gynllun fyddai'n golygu cau pedair ysgol fach yn y sir.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, cytunodd y cabinet i ddechrau'r broses statudol yn ddiweddarach yn y mis.
Mae'r cynllun wedi cael ei feirniadu gan rieni sy'n honni bod llawer o'r ysgolion, er yn fach, yn "tyfu ac yn ffynnu".
Dywedodd Cyngor Powys eu bod yn edrych ar "ail-strwythuro darpariaeth ysgolion cynradd" yn y sir dros y 10 mlynedd nesaf.
Os ydy'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, gallai'r ysgolion gau eu drysau am y tro olaf yn Awst 2022.
Cynllun 'dinistriol'
Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried dyfodol Ysgol Eglwys Castell Caereinion ger Y Trallwng, Ysgol Gynradd Yr Ystog ger Trefaldwyn, Ysgol Eglwys Llanbedr yng Nghrughywel ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydithon yn Llandrindod.
Ar hyn o bryd mae gan y mwyaf o'r ysgolion 40 o ddisgyblion, tro bod 23 yn yr un lleiaf.
Mae rhieni'n disgrifio'r penderfyniad fel un "dinistriol", fyddai'n ergyd arall i blant sydd eisoes wedi'u dadleoli o'u hysgolion.
Dywedodd Rebecca Gotthardt, sydd â plant yn Ysgol Yr Ystog, bod Cyngor Powys wedi rhoi dewis o bedair ysgol arall i rieni gyda "tair o'r rheiny yn Lloegr".
"Byddai cau'r ysgol yn cael effaith anferthol ar y gymuned yma.
"Ar ben hynny, mae hyn oll yn digwydd ynghanol pandemig sydd wedi cael effaith anferthol ar blant a'u rhieni yn barod."
Dywedodd Janine Phillips, o Ysgol Eglwys Llanbedr, eu bod "wedi methu dweud wrth ei phlant am y penderfyniad eto".
"Maen mynd i fod mor ddinistriol, i gau ysgol fel un ni sydd yn tyfu a ffynnu.
"Dwi'n poeni'n arw am lles y plant ac effaith hyn i gyd, mewn cyfnod lle maen nhw wedi cael eu dadleoli o'u ysgolion yn barod."
Budd plant yn 'ganolog'
Daw'r drafodaeth gan Gyngor Powys wrth iddynt geisio ail-strwythuro darpariaeth ysgolion cynradd y sir fel rhan o'i strategaeth ar gyfer trawsnewid addysg ym Mhowys.
Mewn datganiad dywedodd yr aelod cabinet dros addysg ac eiddo, y Cynghorydd Phyl Davies: "Nid ydyn ni'n gwneud y cynnig hwn heb ystyried yr effaith yn ddwys.
"Rydym yn ceisio sicrhau bod budd plant y bedair ysgol yn rhan ganolog o'r trafodaethau a phenderfyniadau.
"Pe bai'r ysgolion hyn yn cau, yna byddai'r dysgwyr yn mynychu ysgolion a fyddai mewn gwell sefyllfa i fodloni gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a darparu ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol."
Mae newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod rhaid i gynghorau wneud "popeth a allant" i gadw ysgolion bach gwledig ar agor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020