Y Bencampwriaeth: Rotherham 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Harry WilsonFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe wnaeth gôl hwyr gan Joe Bennett selio buddugoliaeth i Gaerdydd oddi cartref yn Rotherham nos Fawrth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf a hynny yn erbyn llif y chwarae, wrth i Sheyi Ojo rwydo yn dilyn gwaith da gan Harry Wilson.

Yr ymwelwyr oedd yn pwyso ar ddechrau'r ail hanner, ond wedi awr o chwarae roedd Rotherham yn gyfartal, gyda Matt Crooks yn sgorio o groesiad Michael Smith.

Ond fe sgoriodd Caerdydd y gôl fuddugol gyda phum munud yn weddill wrth i'r cefnwr chwit Bennett benio i gefn y rhwyd o groesiad Josh Murphy.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn codi tri safle yn y Bencampwriaeth i 11eg yn y tabl.