Rhwystrau Brexit lawr i 'benderfyniadau gwleidyddol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwrthdaro ynghylch masnachu a theithio gydag Ewrop yn ganlyniad "penderfyniadau gwleidyddol", yn ôl Gweinidog Brexit Cymru.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, fod Llywodraeth y DU yn "anghyfrifol" am hawlio fod newidiadau yn "annisgwyl" neu'n "broblemau byrdymor".

Ychwanegodd fod y newidiadau'n ganlyniad o roi "penarglwyddiaeth" o flaen "lles" y bobl.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod "wastad wedi bod yn glir" y byddai newidiadau ar ôl gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ddadansoddiad o'r cytundeb masnach yn dilyn Brexit a gytunwyd gyda'r UE ym mis Rhagfyr, yn amlinellu beth sydd wedi newid ers 1 Ionawr a sut fydd y newidiadau'n effeithio ar bobl yng Nghymru.

Dywed gweinidogion Cymru tra bod y cytundeb yn dod ag "eglurdeb angenrheidiol" am ddyfodol perthynas masnach y DU gyda'r UE, "mae nawr angen wynebu rhwystrau newydd a chymhlethdodau".

Dywedodd Mr Miles bod y rhain yn cynnwys biwrocratiaeth ychwanegol a rhwystrau di-doll i fusnesau, porthladdoedd yn pryderu am ostyngiad mewn cludiant wrth i gwmnïau cludo nwyddau ddewis llwybrau mwy uniongyrchol i Ewrop neu fusnesau'n stopio gwerthu i Ewrop.

Ychwanegodd fod rhwystrau eraill yn cynnwys cerddorion ac artistiaid yn methu teithio yn Ewrop, a'r sector bwyd môr Cymreig yn "cael ei ddinistrio gan reoliadau".

Ffynhonnell y llun, Claire Doherty/Getty
Disgrifiad o’r llun,

'Doedd dim rhaid i adael yr Undeb Ewropeaidd fod fel hyn,' meddai'r AS Jeremy Miles

Dywedodd Mr Miles: "Nid oes modd diystyru'r rhwystrau newydd a'r gwrthdaro cynyddol rydyn yn wynebu ynglŷn â masnach a theithio i'n cymdogion Ewropeaidd fel 'camgymeriadau' esgeulus sy'n gallu cael eu datrys yn gyflym - maen nhw'n ganlyniad o benderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DU."

Dywedodd fod amodau i fusnesau sy'n masnachu gyda'r UE wedi "newid yn llwyr ar ddiwedd mis Rhagfyr".

"Bydd hyn yn brifo ni gyd, wrth i amodau masnachu gwaeth effeithio ar ein swyddi a'n hincwm, ac mae'r cytundeb hefyd yn cwtogi cyfleoedd i fyw a gweithio yn Ewrop."

Dywedodd Mr Miles ei bod yn "hollol anghyfrifol" i Lywodraeth y DU hawlio fod newidiadau sy'n dod i'r amlwg yn "annisgwyl" neu'n "broblemau byr dymor."

"Maen nhw ar y cyfan yn ganlyniadau disgwyliedig - a'n aml rhai oedd wedi cael eu darogan - o Lywodraeth y DU yn rhoi'r flaenoriaeth i syniad dychmygol o benarglwyddiaeth o flaen lles economaidd pobl Cymru a gweddill y DU.

"Doedd dim rhaid i adael yr Undeb Ewropeaidd fod fel hyn."

Dim 'dychweliad i drafodaethau'

Pan ofynnwyd i Mr Miles beth hoffai Llywodraeth Cymru newid, dywedodd: "Beth dydw i ddim yn meddwl sy'n mynd i ddigwydd yw dychwelyd i drafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE i ddatrys rhai o'r pethau yma.

"Mewn ffordd, maen nhw'n cael eu disgrifio fel camgymeriadau esgeulus - dydw i ddim yn siŵr os mai hynny yw'r gwirionedd. Dwi'n credu mai hyn yw canlyniad y trafodaethau a gafodd eu cynnal."

Dywedodd Mr Miles fod cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwiliadau ym mhorthladdoedd yn dechrau o fis Gorffennaf y flwyddyn hon a bod "trafodaethau parhaol" wedi bod yn cymryd lle gyda Llywodraeth y DU am ba isadeiledd sydd angen ar gyfer hyn yng Nghaergybi ac yn Abergwaun.

"Rydyn ni mewn trafodaethau parhaol gyda Llywodraeth y DU am hyn ar ôl eitha' lot o amser y flwyddyn ddiwethaf pan nad oedden ni'n rhan o'r drafodaeth mewn gwirionedd.

"Mae rhai o'r pethau ynglŷn â phrosesu ar y ffin yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn gyfan gwbl.

"Fi'n credu ble mae busnesau angen cefnogaeth er mwyn gallu trawsnewid o'r rheolau roedden nhw'n dilyn tan 31 Rhagfyr i'r rheolau newydd - ac mae lot o fusnesau yn y sefyllfa yma - mae angen i Lywodraeth y DU ddod â phecyn cefnogaeth i wneud hynny."

Ddydd Iau cyhoeddodd Llywodraeth y DU cronfa cefnogaeth yn sgil Brexit sy'n werth £20m ar gyfer busnesau bach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Roeddem wastad yn glir y byddai newidiadau unwaith i'r DU adael yr undeb tollau gyda'r UE a'r farchnad sengl, a fe wnaethon ni gyfathrebu'n drwyadl gyda masnachwyr a'r diwydiant i helpu nhw i baratoi.

"Rydyn ni wedi cytuno i gytundeb masnach rydd o ansawdd uchel, wedi'i seilio ar ddim tollau a dim cwotâu, bydd o fudd i deuluoedd a busnesau ar draws y DU.

"Hyn yw'r cytundeb mwyaf y mae'r UE erioed wedi cytuno arno gyda chenedl arall, a bydd yn helpu datgloi buddsoddiad a'n amddiffyn swyddi â gwerth uchel ar draws y DU, o wasanaethau ariannol i weithgynhyrchu ceir."