'Bydd bandiau llai methu mynd i Ewrop oherwydd Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwion LlewelynFfynhonnell y llun, Gwion Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

'Mae'r dyfodol yn bryderus i nifer o gerddorion,' medd y drymiwr Gwion Llewelyn o Nantlle

"Mae'r dyfodol yn edrych yn dywyll i gerddorion fel fi sy'n perfformio ar draws Ewrop," yn ôl drymiwr sydd wedi teithio'n helaeth ar draws y byd yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae Gwion Llewelyn wedi drymio i nifer o artistiaid a grwpiau gan gynnwys Aldous Harding, Villagers a Baxter Dury.

"Yn amlwg dwi ddim wedi gallu chwarae ers Covid ond cyn hynny roeddwn yn perfformio yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Almaen, Gwlad Pwyl - bob man i ddweud y gwir yn Ewrop," meddai wrth Cymru Fyw.

"Dyna fy mywoliaeth i - mae Covid wedi creu cyfnod ansicr i gerddorion ond mae Brexit yn g'neud petha'n waeth.

Ffynhonnell y llun, @GwionLlewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dyma enghraifft o daith y Villagers yn Ewrop cyn Brexit

"Bydd bandiau llai wir yn stryglo a methu fforddio talu am fisa a thrwyddedau wrth fynd i bob gwlad. Ar ben hynny bydd yn rhaid talu am fynd ag offerynnau. Cyn Brexit roedd hi mor hawdd i fand fynd mewn fan i Ewrop.

"Breuddwyd nifer yw perfformio yn Ewrop ond mae hynny'n swnio'n amhosib rhagor. Mae Brexit yn chwalu'r freuddwyd," ychwanegodd y drymiwr, sy'n byw yn Nantlle yng Ngwynedd.

Ddydd Llun bydd ASau yn San Steffan yn trafod deiseb ag arni dros ddau gan mil o lofnodion yn galw am well telerau teithio i gerddorion yn Ewrop yn sgil Brexit.

Mae gwleidyddion llywodraeth San Steffan yn dadlau eu bod nhw wedi ceisio am well telerau ond bod yr UE wedi'u gwrthod.

Beth yw'r gofynion?

Pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu teithio, bydd hi'n ofynnol i gerddorion o'r DU gael fisa os yn aros am gyfnod hwy na 90 diwrnod mewn cyfnod o chwe mis yng ngwledydd Ewrop.

Mewn rhai gwledydd bydd angen i berfformwyr gael trwydded waith hefyd a bydd hi'n ofynnol i fandiau dalu am drwyddedau i'w hofferynnau a nwyddau.

Ffynhonnell y llun, Gwion Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

'Os nad yw petha'n newid, dim ond bandiau mawr ariannog fydd yn gallu teithio yn Ewrop,' medd Gwion Llewelyn

Yn ôl Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain rhwystr posib arall yw bod yn rhaid i yrwyr cwmnïau cludo ddychwelyd i'r DU ar ôl ymweld â dwy wlad yn yr UE.

"Mae hyn yn gwneud y gwaith o symud offer cerddorol ar lori o'r DU i fwy nag un gwlad yn amhosib," medd y gymdeithas.

"Bydd rhaid felly llogi cwmnïau cludo o Ewrop a bydd hynny yn ychwanegu at y gost."

'UE ddim wedi cyfaddawdu'

Dywed llywodraeth San Steffan ei bod wedi ceisio cael gwell telerau i gerddorion o'r DU yn ystod y trafodaethau Brexit ond bod y cynigion wedi cael eu gwrthod gan yr UE.

Yn gynharach eleni dywedodd Angharad Jenkins o'r band Calan, sydd wedi teithio yn helaeth ar draws y byd, y byddai hi'n drueni mawr pe bai rhwystrau yn stopio cerddorion deithio i ac o wledydd Ewrop.

"Trwy deithio a chyfnewid diwylliannau mae modd dysgu cymaint mwy amdanoch chi'ch hun a'ch diwylliant a chanfod beth sy'n gyffredin," meddai.

"Byddai'n gymaint o drueni pe bai rhwystrau yn y ffordd i stopio'r mathau hynny o gyfnewid yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerddor Angharad Jenkins yn gobeithio bydd pobl eraill yn gallu mwynhau'r un fath o brofiadau â hithau

"Dwi'n gobeithio bydd y cyfan yn cael ei ddatrys yn fuan," ychwanegodd Gwion Llewelyn.

"Mae teithio mewn fan a pherfformio mewn gwledydd gwahanol yn rhan o brofiad bywyd - os nad yw petha'n newid, dim ond bandiau mawr ariannog fydd yn gallu gwneud hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ystod cyfnod anodd iawn i'r sector rydym wedi ymrwymo i helpu i gynnal a gwella presenoldeb Ewropeaidd a byd-eang cryf. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws ein sefydliadau diwylliannol i chwalu unrhyw rwystrau a manteisio ar gyfleoedd newydd."

Pynciau cysylltiedig