Llofruddiaeth Caerdydd: Cyhuddo dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Penylan, Caerdydd

Mae dau ddyn gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn yng Nghaerdydd wedi cael eu cyhuddo.

Cafodd corff Tomasz Waga, 23 oed, ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar Westville Road, Penylan tua 23:30 nos Iau, 28 Ionawr.

Mae Damjan Velo, 23 o'r Eglwys Newydd, Caerdydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd Behar Kaci, 29 oed a heb gyfeiriad sefydlog, ei gyhuddo o droseddau cyffuriau a glanhau arian.

Bydd y ddau yn ymddangos gerbron ynadon Caerdydd fore Gwener, 12 Chwefror.

Mae teulu Mr Waga wedi cael ei ddiweddaru ac yn parhau i gael ei gefnogi gan swyddogion cyswllt teulu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad fod cyhuddo'r ddau ddyn yn "gam sylweddol yn yr ymchwiliad" i lofruddiaeth Tomasz Waga ond fod ymholiadau'n parhau.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn Westville Road, Minster Road neu yn agos at 319 Ffordd Casnewydd rhwng 22:00 a hanner nos ar nos Iau, 28 Ionawr i gysylltu gyda ni, gan y gallai'r mymryn lleiaf o wybodaeth, waeth pa mor ddibwys y mae'n ymddangos, fod yn werthfawr i'n hymchwiliad," meddai.

Dylai pobl ffonio 101 i siarad gyda'r heddlu, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Pynciau cysylltiedig