Lluniau rhyfeddol o'r rhew a'r tywydd oer
- Cyhoeddwyd
Mae ffurfiannau rhew anarferol a thrawiadol wedi eu gweld yng ngogledd ddwyrain Cymru yn dilyn cyfnod o dywydd oer.
Roedd Alison Best yn gyrru adref wedi iddi fod ar siwrne angenrheidiol i brynu bwyd pan ddywedodd ei bod wedi gweld 'cerfluniau rhew ffantastig' ger y Wyddgrug.
Credir bod y ffurfiannau rhew wedi eu creu o ganlyniad i ddŵr yn cael ei sblasio o gerbydau oedd yn pasio.
Mae'r tywydd oer yn debygol o barhau, gyda rhybuddion eira a rhew mewn lle i'r rhan fwya' o Gymru am weddill yr wythnos a dros y penwythnos.
Roedd hi'n oer iawn dros rannau o Gymru nos Fercher, gyda thymheredd yn gostwng i -6c mewn rhai ardaloedd.
Ond meddyliwch am drigolion druan Braemar ger Aberdeen lle'r oedd y tymheredd yn -23c! Y noson oeraf ym Mhrydain ers 1995.
Roedd hi'n rhewi ar lan y môr yng Ngwynedd hefyd - dyma lun dynnodd Julie Jones o Langwnnadl.