Rhybuddion o eira a rhew i Gymru dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd

Mae yna rhybudd am eira ar draws Cymru dydd Sadwrn
Mae disgwyl eira a rhew mewn rhai ardaloedd o Gymru ar ddiwedd yr wythnos, gyda dau rybudd tywydd gwahanol mewn grym.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl eira a rhew ar draws ardaloedd o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro rhwng nos Iau a bore dydd Gwener.
Mae yna hefyd ail rybudd am eira ar ddydd Sadwrn ar draws y rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd-orllewin Cymru.
Gall gwyntoedd cryfion o'r dwyrain achosi stormydd eira mewn rhai ardaloedd.

Mae'r rhybudd cyntaf yn berthnasol i orllewin Cymru
Mae disgwyl i'r rhybudd cyntaf o rew fod mewn grym o 21:00 nos Iau tan 11:00 dydd Gwener ac ond yn effeithio ar dde orllewin Cymru.
Mae'n bosib gall rhai ffyrdd a rheilffyrdd gael eu heffeithio gyda pherygl o amseroedd teithio hirach ar ffyrdd, ac wrth ddefnyddio bysiau a threnau.
Ddydd Sadwrn mae yna ail rybudd am eira o hanner nos dydd Sadwrn tan hanner nos dydd Sul.
Er hyn, mae'r posibilrwydd o gael eira trwm yng Nghymru yn llai sicr ar hyn o bryd.
Mae rhybudd dydd Sadwrn yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent 
- Caerffili 
- Caerfyrddin 
- Castell-nedd Port Talbot 
- Ceredigion 
- Conwy 
- Dinbych 
- Gwynedd 
- Merthyr Tudful 
- Powys 
- Rhondda Cynon Taf