Ceisio cadw'r gobeithion am Gamp Lawn yn fyw yn Yr Alban
- Cyhoeddwyd
![Louis Rees-Zammit](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/453B/production/_116932771_gettyimages-1300846777.jpg)
Cais Louis Rees-Zammit oedd yr un allweddol i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sul
Bydd Cymru'n teithio i Gaeredin ddydd Sadwrn mewn ymgais i gadw eu gobeithion am Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Cafodd y ddwy wlad ddechrau gwych i'r bencampwriaeth y penwythnos diwethaf gyda buddugoliaethau dros Loegr ac Iwerddon.
Doedd sylwebwyr ddim yn disgwyl i Gymru na'r Alban gystadlu am y bencampwriaeth eleni, ond ar ôl y gêm gyntaf dim ond nhw a Ffrainc sy'n gallu ennill y Gamp Lawn.
Bydd y gic gyntaf ym Murrayfield am 16:45 brynhawn Sadwrn.
Llu o anafiadau
Ond mae chwe chwaraewr yn y garfan wedi cael anafiadau ers y gic gyntaf yn erbyn Iwerddon, gan olygu bod nifer o newidiadau i'r tîm o'r penwythnos diwethaf.
Mae Dan Lydiate, Tomos Williams, Johnny Williams a George North ymysg y rheiny sydd ddim ar gael, ond mae newyddion da wrth i Liam Williams ddychwelyd i'r tîm yn dilyn gwaharddiad.
Mae'n bosib hefyd y bydd y canolwr Willis Halaholo yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc.
Ond nid Cymru yw'r unig wlad sy'n delio ag anafiadau - bydd Yr Alban yn gorfod ymdopi heb Jamie Ritchie, Sean Maitland a Cameron Redpath.
![Yr Alban](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/935B/production/_116932773_gettyimages-1300799675.jpg)
Y penwythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i'r Alban drechu Lloegr yn Twickenham ers 38 o flynyddoedd
Er yr anafiadau, mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn dweud bod hynny'n rhoi cyfle i chwaraewyr gwahanol greu argraff.
"Mae'r bwlch o chwe diwrnod rhwng gemau yn dod yn sydyn, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd 'nôl mas ar y cae," meddai.
"Rydyn ni wedi cael ambell anaf ond ry'n ni'n ei weld fel cyfle i'r rheiny sy'n dod mewn i'r tîm."
Er y canlyniad da yn erbyn 14 dyn Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sul, mae Cymru ar rediad ofnadwy oddi cartref.
Maen nhw wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf i ffwrdd o Gymru - eu rhediad gwaethaf ers 2006/07 - a'r Alban fydd y ffefrynnau brynhawn Sadwrn.
![Wayne Pivac](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DD93/production/_116932765_gettyimages-1229956197.jpg)
Mae Wayne Pivac yn dweud bod yr anafiadau yn rhoi cyfle i chwaraewyr gwahanol greu argraff
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/6680/production/_116904262_01790301-f954-4ab7-94db-cb336a15e453.gif)
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, Owen Watkin, Nick Tompkins, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones, Leon Brown, Will Rowlands, James Botham, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Willis Halaholo.
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/6680/production/_116904262_01790301-f954-4ab7-94db-cb336a15e453.gif)
Tîm Yr Alban
Stuart Hogg (c); Darcy Graham, Chris Harris, James Lang, Duhan van der Merwe; Finn Russell, Ali Price; Rory Sutherland, George Turner, Zander Fagerson, Scott Cummings, Jonny Gray, Blade Thomson, Hamish Watson, Matt Fagerson.
Eilyddion: David Cherry, Oli Kebble, WP Nel, Richie Gray, Gary Graham, Scott Steele, Jaco van der Walt, Huw Jones.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021