'Brwydr anodd' sicrhau gofal diwedd oes
- Cyhoeddwyd
Mae sicrhau gofal diwedd oes yn gallu bod yn "frwydr anodd" ond mae teuluoedd yn gyndyn o gwyno, yn ôl cadeirydd elusen Compassionate Cymru.
Daw'r sylwadau wrth i elusen Marie Curie ragweld cynnydd o 42% yn y galw am ofal diwedd oes erbyn 2040.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi ymestyn y cyfnod cyllido er mwyn cefnogi cynlluniau gofal diwedd oes tan fis Mawrth 2022, wedi clustnodi £9.2m o gyllid brys yn ogystal â chynnig cyngor ac adnoddau.
Ond yn ôl Lesley Bethell, 69 o Abertawe, er ei bod wedi gweithio fel ymchwilydd polisi iechyd ei hun ac yn gwybod pa gymorth oedd ar gael, yn ymarferol roedd y sefyllfa yn un anodd pan fu farw ei rhieni a'i rhieni yng nghyfraith.
"Roedd gan fy rhieni a fy rhieni yng nghyfraith gyflyrau amrywiol wrth iddyn nhw farw, roedd gan dri ohonyn nhw ddementia ar ddiwedd eu hoes," medd Ms Bethell.
Fel academydd ar y pryd, dywed Ms Bethell ei bod yn brofiad "rhwystredig" i ysgrifennu am faterion ynglŷn â pholisi iechyd gan wybod nad oedd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
"Roeddwn i'n gwybod beth oedd y theori o beth ddylai ddigwydd yn ddelfrydol, ac roeddwn i'n disgwyl y math yna o gefnogaeth, ond mewn gwirionedd roedd yn llawer mwy anodd na hynny."
Roedd mam a mam yng nghyfraith Ms Bethell mewn cartrefi gofal, ac wedi dweud nad oedden nhw eisiau mynd i ysbytai - cais oedd yn cael ei gefnogi gan y cartrefi gofal.
Ond, roedd y cartrefi'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at beth oedd ei angen i barchu'r dymuniadau yma.
"Roedd y ddau gartref yn barod i'w cefnogi nhw i aros, ond roedden nhw'n ei chael hi'n anodd cael cyngor a chefnogaeth i leddfu symptomau ac i ddelio â gofal diwedd oes ar gyfer pobl sy'n fregus ac yn dirywio dros gyfnod o amser," medd Ms Bethell.
Yn y diwedd, fe benderfynodd fynd drwy'r broses o wneud cwyn, cam mae hi'n ei ddweud sy'n rhy anodd i sawl teulu wynebu.
"Fe gymerodd y cwyn oesoedd, ac roedd yn anodd ei ddatrys. Fe siarades i ag eraill oedd yn synnu mor gyffredin yw'r broblem o fethu lleddfu symptomau a pha mor amharod yw pobl i gwyno."
"Dy'n nhw ddim yn bobl sy'n teimlo'n gyfforddus i gwyno, ac yn naturiol, mae pobl eisiau rhoi'r cyfan tu ôl iddyn nhw.
"Mae cwyno yn eich llusgo chi nôl ac yn y modd hwnnw dyw'r pryderon ddim yn cael eu dwyn gerbron y bobl allai wneud rhywbeth am y sefyllfa."
Aeth Ms Bethell drwy'r broses saith mlynedd yn ôl, gyda'i hachos yn dod gerbron y gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford. Cafodd y mater ei gyfeirio at y Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes.
Cafodd gais i eistedd ar y bwrdd, ac mae wedi bod arno nawr ers pum mlynedd, yn ogystal â bod yn gadeirydd Compassionate Cymru.
"Rwy wedi codi pryderon, ac mae llawer mwy o gydnabyddiaeth yn barod am bwysigrwydd y materion yma," meddai.
Disgwyl 'cynnydd mawr' yn y galw am ofal diwedd oes
Ei blaenoriaeth nawr yw lleihau'r bwlch rhwng yr ymchwil am ofal diwedd oes a'r hyn sy'n digwydd o fewn gwasanaethau gofal.
Fel elusen sy'n darparu cymorth i filoedd o bobl a'u teuluoedd, mae Marie Curie yn rhagweld cynnydd aruthrol yn y galw am ofal diwedd oes yng Nghymru a Lloegr - o 375,000 i bron 470,000 o bobl bob blwyddyn erbyn 2040.
Dementia a chanser fydd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd, ac oherwydd hyn mae'r elusen yn galw ar bleidiau gwleidyddol i gynnwys cynlluniau am strategaeth gofal diwedd oes yn eu maniffesto etholiadol.
Mae'r BBC wedi cysylltu â phob plaid ac mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP a'r Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio i gyd wedi cadarnhau y bydd 'na strategaeth yn rhan o'u maniffesto.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod eu maniffesto dal yn cael ei ddatblygu, ond bod gofal diwedd oes yn flaenoriaeth.
Yn ôl Llafur Cymru, mae'r cynllun gweithredu diwedd oes wedi cael ei weithredu gan y llywodraeth, ond dydy'r blaid ddim wedi cwblhau fersiwn derfynol ei maniffesto eto.
Dim ond un polisi sydd gan blaid Diddymu'r Cynulliad ac felly maen nhw'n dweud na fyddan nhw yn rhoi sylw i'r mater.
Mae nyrsys Marie Curie yn dweud bod y pandemig wedi cael effaith mawr ar eu gwasanaethau.
"Mae pawb yn gwneud popeth allan nhw", medd Sian Tucker, nyrs glinigol i'r gwasanaeth yn y cartref.
"Mae yn anodd wrth i bobl gysgodi, neu hunanynysu, ac mae hynny'n gwneud pethau'n anoddach fyth pan fo'n gwasanaethau wedi'u hymestyn i'r pen.
"Mae Covid wedi cael effaith anferthol."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hosbisau Cymru yn darparu gwasanaeth hynod bwysig ac ry'n ni'n cydnabod y cyfraniad anferth maen nhw'n ei wneud i ofal diwedd oes a'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu i gleifion, teuluoedd a gofalwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020