Rhybudd rhew a disgwyl eira ar dir uchel
- Cyhoeddwyd
Gallai rhew ac eira achosi ychydig o drafferthion ar draws Cymru ddydd Sadwrn, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae rhybudd melyn mewn grym tan 22.00 nos Sadwrn mewn 18 sir.
Mae yna rybudd y gallai'r ffyrdd fod yn llithrig i fodurwyr a cherddwyr ac mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod angen cymryd gofal ar ffyrdd a phalmentydd na sydd wedi'u graeanu.
Dywed yr heddlu yn Aberystwyth bod glaw rhewllyd yn achosi i'r ffyrdd fod yn beryglus ac mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio pobl i osgoi Allt Gwaunysgor yn Sir y Fflint wrth i bum cerbyd wynebu trafferthion.
Gellir disgwyl ychydig o eira ar dir isel ond ar dir uchel gellir disgwyl cymaint â 2.8 modfedd (7cm).
Ar dir uchel hefyd, dywed y Swyddfa Dywydd bod gwyntoedd cryfion yn bosib ac fe allai hynny achosi lluwchfeydd.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.