Cerddwr yn cael ei ladd wedi gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4 at junction 35 (Pencoed)Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae plismyn yn awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw

Dywed Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar draffordd yr M4 rhwng cyffyrdd 34 (Meisgyn) a 35 (Pen-coed) yn gynnar fore Sadwrn.

Bu farw cerddwr 34 oed wedi iddo wrthdaro yn erbyn nifer o gerbydau oddeutu 05.45.

Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Bu'r draffordd rhwng cyffyrdd 33 a 35 ar gau am gyfnod.

Dywed y Rhingyll Huw O'Connell, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau "ei bod yn hynod o bwysig bod unrhyw un a oedd yn teithio rhwng cyffyrdd 34 a 35 rhwng 05.35 a 05.50 fore Sadwrn yn cysylltu â nhw".

Mae plismyn hefyd yn awyddus i unrhyw un sydd â lluniau dashcam i ddod i gysylltiad drwy ffonio 101 neu e-bostio publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk a dyfynnu y rhif 2100051765.

Pynciau cysylltiedig