Pryder dros ddefnydd rhieni o alcohol a chyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Merch yn edrych trwy ffenestFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnydd dramatig wedi bod yn ystod y pandemig yn nifer y plant sydd angen help gan fod rhieni neu ofalwyr yn camddefnyddio alcohol a chyffuriau, medd elusen.

Dywed NSPCC Cymru bod 572 o achosion wedi'u cyfeirio at yr heddlu ac asiantaethau eraill yn y 10 mis diwethaf yn dilyn galwadau i'w llinell gymorth.

Mae hynny'n gynnydd o 72% ers dechrau'r pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £54m mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a bod £2.75m o'r swm hwnnw wedi'i neilltuo ar gyfer plant a theuluoedd.

Dau blentynFfynhonnell y llun, Getty Images

'Yr ysgol oedd fy unig ddihangfa'

Mae Ashley, 25, o Sir Ddinbych, yn disgrifio'r teimlad o fod "yn gaeth" yn ei chartref ei hun pan roedd yn blentyn yn cael ei magu gan fam oedd yn goryfed "bob dydd cyn belled ag y galla'i gofio".

"Roedd yn golygu bod yn rhaid i mi fod yn fam i'm mrodyr a chwiorydd a doedd gen i ddim bywyd fy hun mewn gwirionedd... Yr ysgol oedd fy unig ddihangfa.

"Gwnes i ddim siarad â neb am beth oedd yn mynd ymlaen adref oherwydd doeddwn ni ddim yn sylweddoli bod o'n wrong. Dyna oedd fy mywyd a ro'n i'n meddwl bod o'n normal."

Ychwanegodd: "Mae fy nghalon yn torri dros y plant allan yna sy'n mynd trwy hyn ar hyn o bryd... yn stuck adref gyda phroblem alcohol o'u gwmpas a dim dihangfa."

'Os oes alcohol yn y tŷ, byddwch yn ei yfed'

Rhian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Williams yn helpu merched eraill yfed llai ar ôl goresgyn ei brwydr ei hun ag alcohol

Dydy Rhian Williams, 36, o Abertawe, heb yfed unrhyw alcohol ers bron i flwyddyn wedi "15 mlynedd o addoli gwin".

Roedd yn yfed bron bob noson o'r wythnos, ac fe gafodd hynny effaith ar ei pherthynas gyda'i gŵr, Chris.

Erbyn hyn mae hi'n cwnsela menywod sy'n yfed llai o alcohol neu wedi rhoi gorau arni yn gyfan gwbl.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd eithriadol i bawb," meddai. "Ry'ch chi yn y tŷ... beth y'ch chi'n mynd i wneud?

"Os oes alcohol yn y tŷ, byddwch chi'n ei yfed... dyna fyddwn i wedi'i wneud.

"Mae'n cael ei werthu i ni fel rhywbeth sy'n ein hymlacio ac yn ateb i straen. Yn anffodus, nad dyna'r achos, ond y mwya' ry'n ni'n ei wneud e, y mwya' mae'r corff yn dysgu taw dyna ry'n ni mo'yn gwneud, a dyna sut gallen ni ddod yn ddibynnol."

Gwirfoddolwr NSPCCFfynhonnell y llun, NSPCC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r NSPCC'n gallu cyfeirio achosion at yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill

Mae'r NSPCC yn galw ar y llywodraeth, byrddau iechyd a chynghorau i sicrhau parhad gwasanaethau camddefnyddio sylweddol gydol y pandemig.

Ar gyfartaledd, mae nifer y cyfeiriadau misol 72% yn uwch nag yn nhri mis cyntaf 2020, medd yr elusen. Mae'n galw am strategaeth adfer Covid i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma.

Mae'r pandemig a'r cyfnodau clo "wedi creu storm berffaith i deuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan y broblem yma", medd Kam Thandi, pennaeth llinell gymorth NSPCC.

"Yn ogystal â mwy o alwadau, rydym hefyd yn gweld teuluoedd nad oedd yn hysbys gynt i wasanaethau plant sydd angen help a chefnogaeth at gamddefnyddio sylweddau.

"Mae'r pwysau ar deuluoedd ar y foment yn ddigynsail a does dim syndod bod ein llinell gymorth yn clywed fod rhieni a gofalwyr yn brwydro gyda chamddefnydd sylweddau."

Dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu fod plant yn cael eu cam-drin, medd yr elusen, ond mae'n gwneud hi'n fwy anodd i ofalwyr roi gofal diogel a chyson.

Record newydd

Yn ystod naw mis cyntaf 2020, fe gofnodwyd y nifer uchaf o farwolaethau'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru a Lloegr ers dechrau cadw cofnod yn 2001.

Mae'r ystadegau cychwynnol yn nodi 5,460 o farwolaethau yn crybwyll alcohol ar dystysgrif marwolaeth rhwng Ionawr a Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn bryderus eithriadol ynghylch rhai o'r materion sy'n cael eu codi yn yr adroddiad yma a bregusrwydd rhai o'n plant.

"Yn gynnar yn y pandemig, fe wnaethon ni geisio sicrhau y byddai cefnogaeth i deuluoedd a phlant yn parhau."

Pynciau cysylltiedig