Iceland yn diswyddo rheolwr am sylwadau am y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Iceland's Deeside headquartersFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys Iceland yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint

Mae archfarchnad Iceland wedi diswyddo ei rheolwr cyfathrebu corfforaethol yn dilyn sylwadau a wnaeth am yr iaith Gymraeg.

Roedd Keith Hann wedi dweud bod y Gymraeg yn "iaith farw sy'n swnio fel rhywun sydd â chatâr [salwch trwynol] yn clirio eu gyddfau".

Roedd Mr Hann, wnaeth y sylwadau ar flog personol yn 2009 a 2014, hefyd wedi dweud bod yr iaith yn "rwtsh".

Dywedodd hefyd ei fod yn "gofidio" bod ei gartref yn Lloegr "ond dwy filltir" o'r ffin.

Cwmni'n 'falch' o fod yn Gymreig

Ers i sylwadau Mr Hann ddod i'r amlwg, fe gafodd ei gyfrif Twitter ei gloi wrth i nifer o ddefnyddwyr y wefan leisio'u hanfodlonrwydd.

Dywedodd un na fyddai "fyth yn siopa yn Iceland eto", ac na fyddai'n goddef yr "ymosodiad gwarthus ar Gymru a'r Gymraeg" gan Mr Hann.

Dywedodd un arall y byddai hefyd yn gwario ei arian mewn siopau eraill yn y dyfodol.

Fe wnaeth Iceland, sydd â'i phencadlys yng Nglannau Dyfrdwy, ddweud bod Mr Hann wedi ei ddiswyddo ar unwaith, ac nad oedd ei sylwadau'n "adlewyrchu gwerthoedd y busnes".

Ychwanegodd Iceland bod y cwmni'n "falch" o fod yn Gymreig, a'i bod wedi buddsoddi mewn cymunedau dros Gymru.

Fe wnaeth y cwmni hefyd ymddiheuro am unrhyw loes.

Dywedodd Dr Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduriaeth a golygydd Nation.Cymru, y wefan wnaeth adrodd gyntaf ar sylwadau Mr Hann: "Mae'n dangos grym y cyfryngau cymdeithasol achos, os oes gynnoch chi gwmni masnachol a bod digon o bobl yn ymateb yn ddigon chwyrn i stori newyddion - a'i bod hi'n ymddangos y gallai hyn wneud niwed ariannol i'r cwmni - mae'n nhw'n mynd i ymateb yn eithaf cyflym.

"Dwi ddim yn hapus ei fod wedi colli'i swydd mewn ffordd, achos dwi'n meddwl y byddai wedi bod yn ddigon hawdd iddo ymddiheuro am ei sylwadau yn y lle cyntaf, ac efallai byddai hynny wedi cael gwared o'r stori.

"Dwi'n meddwl, yn y pendraw, ei fod wedi cael ei ddamnio gan ei eiriau'i hun mewn gwirionedd."

Pynciau cysylltiedig