Bwriad i roi enwau Cymraeg ar holl strydoedd Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
LlangollenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enwau strydoedd yn ardaloedd fel Llangollen yn Gymraeg o dan y polisi newydd

Bydd yn rhaid i strydoedd newydd yn Sir Ddinbych gael enwau Cymraeg yn y dyfodol o dan gynlluniau'r cyngor.

Dim ond ar ôl campau eithriadol y bydd enwau pobl yn cael eu defnyddio ar gyfer ffyrdd yno o hyn ymlaen hefyd.

Cytunodd Cyngor Sir Ddinbych ar y polisi enwi strydoedd newydd yn ystod cyfarfod cabinet ddydd Mawrth.

Cafodd y newid polisi ei ysgogi gan feirniadaeth mewn cyfarfod pwyllgor craffu perfformiad yn 2019.

Byddan nhw'n dilyn esiampl Cyngor Caerdydd o enwi pob ffordd newydd gan ddefnyddio'r Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Capten Syr Tom Moore i amlygrwydd wedi iddo helpu i godi swm sylweddol o arian ar gyfer y GIG

Bydd yr arfer o enwi ffyrdd ar ôl pobl yn rhywbeth y mae'r cyngor ond yn ei ddilyn yn yr amgylchiadau mwyaf rhyfeddol o hyn ymlaen, meddai'r Cynghorydd Richard Mainon.

Gan gyfeirio at faterion diweddar gyda HM Stanley, dywedodd: "Wrth i amseroedd newid nid yw'r enwau hyn yn sefyll prawf amser ac mae angen llawer o waith i'w newid.

"Os bydd rhywbeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn digwydd fel Syr Tom Moore, mae hynny'n hynod.

"Mae'r ffaith ei fod ond yn digwydd unwaith mewn cenhedlaeth yn ei gwneud hi'n arbennig. Rwy'n credu os yw'r polisi'n dweud na ddylem [enwi strydoedd ar ôl unigolion] mae hynny'n ymarferol."

Cymeradwyodd aelodau'r cabinet y newidiadau i'r polisi.

Bydd yn rhaid i'r cyngor llawn wneud penderfyniad terfynol ar y mater.

Pynciau cysylltiedig