Dileu cynnwys 'hiliol' ar sianel YouTube Gymreig

  • Cyhoeddwyd
VOW
Disgrifiad o’r llun,

Sianel Voice of Wales ar YouTube

Mae sianel YouTube Gymreig wedi ei labelu'n "hiliol" a'i chyhuddo o ddarlledu iaith a syniadaeth "ffiaidd" ac "annerbyniol" wedi ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.

Dechreuodd sianel YouTube 'Voice of Wales' ddarlledu ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae dros 5,000 o bobl yn tanysgrifio i'r sianel, sy'n cael ei chyflwyno gan ddau ddyn o ardal Abertawe - Dan Morgan a Stan Robinson.

Mae'r sianel wedi cofnodi cyfanswm o dros 350,000 o sesiynau gwylio hyd yma.

Yn sgil yr ymchwiliad, mae YouTube wedi dileu peth cynnwys lle mae Voice of Wales yn ymddangos a rhwystro hysbysebion rhag ymddangos ar fideos eraill.

Dywedodd Voice of Wales wrth BBC Cymru eu bod nhw'n rhoi llais i'r rhai sydd ddim yn cael eu cynrychioli gan gyfryngau prif ffrwd.

Ond mae gwleidyddion tair plaid fwyaf Cymru wedi beirniadu gweithredoedd Voice of Wales.

Gwesteion gwaharddedig

Ymysg y gwesteion sydd wedi ymddangos ar y sianel YouTube mae aelodau'r 'Proud Boys' - grŵp sydd yn weithgar yng ngogledd America.

Mae'r Proud Boys wedi eu gwahardd gan Facebook, Twitter ac Instagram.

Yng Nghanada, maen nhw wedi eu gwahardd yn llwyr wedi i'r llywodraeth yno farnu eu bod nhw'n fudiad terfysgol.

Mae rhai sydd y tu ôl i sianel Voice of Wales hefyd wedi ymddangos mewn trafodaethau gydag unigolion dadleuol eraill fel Katie Hopkins a Tommy Robinson - ill dau wedi eu gwahardd rhag defnyddio Twitter am dorri canllawiau'r wefan honno o ran casineb.

Mae rhai hefyd wedi codi pryderon bod gwleidyddion Cymreig amlwg wedi ymddangos ar y sianel, gan gynnwys unig Aelod Senedd UKIP, Neil Hamilton a chyn-ymgeisydd etholiadol Ceidwadol Felix Aubel.

Disgrifiad o’r llun,

Un o ddarllediadau Voice of Wales ar YouTube

Mae Voice of Wales hefyd wedi bod yn bresennol mewn protestiadau dadleuol, gan ddarlledu sylw sydd yn ymddangos yn ffafriol i'r rheiny sydd wedi bod yn ceisio tarfu ar chwaraewyr pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw benglinio i gefnogi mudiad Black Lives Matter, yn ogystal â rhai oedd yn dangos eu gwrthwynebiad i gartrefi ceiswyr lloches mewn gwersyll hyfforddi milwrol yn Sir Benfro.

Mae cyflwynwyr Voice of Wales, Dan Morgan a Stan Robinson, yn aelodau o blaid UKIP ac mae yna bryderon am eu hiaith nhw ar adegau hefyd.

Mewn un fideo, mae Mr Robinson yn nodi: "Pe bawn i eisiau rhoi sylw i bopeth India, byddwn i'n mynd ar jet ac yn mynd i India. Dwi ddim eisiau hynny ar fy stepen drws."

Mae Katie Hopkins yn dweud wrtho: "Rwy'n credu mai cymuned Hindŵaidd India yw'r gorau ohonom yn yr ystyr eu bod yn gweithio'n galetach na ni a'u plant yn perfformio'n well na'n un ni. Nhw yw'r gorau o Brydain.

"Rwy'n credu bod yna gymunedau sydd wedi integreiddio sydd wedi ein gwneud ni'n well ac rwy'n credu nad yw'r hyn rydyn ni'n ei weld nawr yn integreiddio o gwbl," ychwanegai.

Mae Stan Robinson yn ateb: "Mewn gwirionedd roedd hynny'n gyfatebiaeth wael. Mae India yn Brydeiniwr. Pacistan mewn gwirionedd…" Cyn cytuno â Hopkins bod "'mob' Fwslimaidd Pacistan yn broblematig."

Tra'n darlledu'n fyw o Fae Caerdydd mewn fideo arall, mae Mr Morgan yn gwneud y sylw canlynol wrth weld posteri o bobl ddu amlwg yn y ffenestri: "Beth yw'r adeilad yma? Dy'ch chi ddim yn mynd i gredu hyn.

"Cyngor Celfyddydau Cymru... achos ni gyd yn gwybod dyma beth sydd ar ddod yng Nghymru. Cyngor Celfyddydau Affricanaidd Cymru. Oedd e'n dweud hynny? Nag oedd. Ond mi ddylai wneud."

Poenydio

Dywedodd un cynghorydd sir ei fod e wedi ei boenydio gan Voice of Wales, ac wedi cael ei gyhuddo ganddyn nhw o rannu fideo rhywiol o ferch ysgol, dan oed, ar ôl gwrthwynebu eu protestiadau yn sir Benfro. Cyhuddiad mae'n ei wadu yn llwyr.

Er bod rhyddid mynegiant yn un o gonglfeini democratiaeth, mae tair prif blaid wleidyddol Cymru wedi mynegi pryderon am iaith a syniadaeth Voice of Wales.

Yn ôl Nia Griffith, llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan: "Maen nhw'n beryglus iawn. Maen nhw'n cyffroi casineb a hiliaeth.

"Maen nhw'n ceisio creu rhaniadau yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid i ni eu cymryd nhw o ddifrif a gweld os oes ffordd allwn ni leihau eu dylanwad."

Roedd beirniadaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig hefyd.

Mewn datganiad, dywedon nhw: "Mae dadlau gwleidyddol, gan gynnwys anghytuno, yn un peth, ond mae'r math o iaith sydd yn cael ei defnyddio gan aelodau a chefnogwyr Voice of Wales ar y sianel YouTube yn annerbyniol i fwyafrif pobl Prydain diolch byth, ac i'r rheiny o genhedloedd eraill sydd yn byw mewn Teyrnas Unedig amrywiol.

"Bydd pobl o bob plaid yn gwrthod yr iaith a syniadaeth ffiaidd sydd yn cael eu defnyddio gan aelodau Voice of Wales, ac unrhyw un arall sydd yn rhagfarnu eraill o ran ble maen nhw'n dod, eu cenedligrwydd, ethnigrwydd neu eu credoau."

'Beirniadaeth ddi-sail'

Wedi iddo ddisgrifio Voice of Wales fel "sianel newyddion wych sydd yn chwilio am y gwirionedd" ar Twitter yn ddiweddar, dywedodd Felix Aubel nad yw ef, o anghenraid, yn cytuno â holl gynnwys a daliadau Voice of Wales, ond ei fod yn credu bod hi'n bwysig bod ganddyn nhw hawl i fynegi barn.

Pan ofynnwyd iddyn nhw ymateb i ymwneud eu haelodau â Voice of Wales, dywedodd UKIP "mae hyn yn edrych fel ymgais gan y BBC i gau cystadleuaeth yng Nghymru drwy ddefnyddio beirniadaeth ddi-sail - beirniadaeth ry'n ni gyd wedi ymgyfarwyddo â hi dros y blynyddoedd i fwrw amheuaeth ar ddarparwyr eraill.

"Mae UKIP yn sefyll gyda mwyafrif pobl Cymru sydd yn deall bod mudiadau torfol fel Black Lives Matter yn gwneud dim ond creu mwy o raniadau a chynhyrfu tensiynau hiliol yn ein cymdeithas.

"Ry'n ni'n gweld dim o'i le gyda chefnogwyr yn mynegi eu dicter bod eu tîm chwaraeon yn penglinio wrth gefnogi grŵp treisgar."

Ond gwrthod hynny mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

"Mae'r masg yn dechrau slipio," meddai Mr Price, "gyda UKIP ac unrhyw un arall sydd yn hwyluso y grŵp yma.

"Unrhyw un sydd yn eu helpu ac yn cydweithio gyda nhw, mae'n rhaid i ni ofyn iddyn nhw hefyd beth yw eich gwleidyddiaeth chi ond gwleidyddiaeth adain dde eithafol?"

Mewn datganiad, dywedodd Voice of Wales: "Ry'n ni wedi croesawu gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys cyn-gynghorydd Maer Llundain ac ymgeisydd plaid Respect Lee Jasper [sydd â'i gyfrif Twitter wedi ei wahardd ar hyn o bryd wedi iddo fe dorri'r rheolau] a Katie Hopkins.

"Rydyn ni'n gweithredu gwahoddiad agored i BLM, ANTIFA, Socialist Workers Party, cynghorwyr, Aelodau Senedd a Gweinidogion ry'n ni wedi eu henwi ar ein sianel."

Maen nhw'n gwadu eu bod nhw'n hiliol ac yn ôl eu datganiad, "mae rhyddid i fynegi barn yn caniatáu peri loes yn ogystal â chael eich tramgwyddo".

Dywedodd YouTube mewn datganiad bod eu canllawiau nhw'n gwahardd defnyddio iaith casineb a'u bod nhw'n cael gwared ag unrhyw fideos a sylwadau sydd yn torri'r polisïau yna.

Fe gadarnhaon nhw hefyd eu bod nhw wedi dileu tri fideo yn cynnwys Voice of Wales ac wedi rhwystro hysbysebion ar chwe fideo pellach wedi i Newyddion S4C dynnu eu sylw at gynnwys sydd wedi peri gofid.