Llafur i roi'r hinsawdd 'wrth galon popeth a wnawn'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers Rhagfyr 2018

Byddai Llywodraeth Lafur ar ôl etholiad y Senedd mis Mai yn rhoi Cymru "ar flaen y chwyldro ynni byd-eang", yn ôl arweinydd y blaid.

Cafodd araith Mark Drakeford ei darlledu ar-lein fel rhan o gynhadledd rithwir Llafur Cymru.

Galwodd Prif Weinidog Cymru hefyd am "setliad datganoli mwy grymus".

Mae disgwyl i'r etholiad gael ei gynnal ar 6 Mai.

Mae Mark Drakeford wedi bod yn arweinydd ar Lafur Cymru ac yn Brif Weinidog ers olynu Carwyn Jones ym mis Rhagfyr 2018.

Mae eisoes wedi dweud y bydd yn ildio'r awenau'n ystod tymor nesa'r Senedd os caiff ei ailbenodi i'r rôl ar ôl yr etholiad.

Newid hinsawdd yn ganolog

Yn ei neges fore Gwener dywedodd Mr Drakeford y byddai llywodraeth Lafur yn rhoi'r "angen brys" i fynd i'r afael â newid hinsawdd "wrth galon popeth a wnawn".

"Rydyn ni mor ffodus yn ein gwlad i gael yr holl adnoddau naturiol sydd eu hangen arnom i roi Cymru ar flaen y chwyldro ynni byd-eang y bydd ei angen ar y byd.

"Gwynt, dŵr a thonnau - bydd y Llywodraeth Lafur nesa'n defnyddio'r asedau hynny i greu swyddi yn y dyfodol.

"Ac wrth wneud hynny gwnawn ein cyfraniad at sicrhau dyfodol ein planed hardd ond bregus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Drakeford am i Gymru "gymryd perchnogaeth o'i thynged ei hun ochr yn ochr â phobl yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon"

'Angen setliad grymus'

Gyda mwy o drafod cyhoeddus yn digwydd ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Mae angen setliad datganoli mwy grymus arnom.

"Un ble rydyn ni'n sicrhau ymreolaeth i Gymru (home rule) - o fewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus."

Ac o bosib mewn ymateb i fudiad annibyniaeth YesCymru, dywedodd Mr Drakeford: "Ie i Gymru, wrth gwrs - dyna ble rydw i wedi sefyll trwy gydol fy oes gyfan - ond Ie i Gymru sy'n cymryd perchnogaeth o'i thynged ei hun ochr yn ochr â phobl yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n rhannu ein gwerthoedd blaengar.

"Ie i Gymru sydd â'r hyder o wybod ein bod ar ein gorau pan fyddwn yn dymchwel rhwystrau, nid yn eu hadeiladu, lle rydym yn creu ein dyfodol ochr yn ochr ag eraill, nid er gwaethaf neu yn eu herbyn."

Mae Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dechrau datganoli ym 1999, gan ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2000 a Phlaid Cymru yn 2007.

Ar hyn o bryd mae gan y blaid 29 o'r 60 sedd yn y Senedd.

Collodd Llafur chwe sedd yng Nghymru yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU yn 2019.