Ethol Mark Drakeford fel arweinydd newydd Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi cael ei ethol yn arweinydd nesaf y blaid Lafur yng Nghymru.
Mae'n golygu bod Mr Drakeford, sydd ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd Cyllid, hefyd yn debygol o olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru.
Llwyddodd AC Gorllewin Caerdydd i sicrhau 53.9% o'r bleidlais wedi'r ail rownd o gyfri'.
Vaughan Gething ddaeth yn ail yn y bleidlais gydag Eluned Morgan yn drydydd.
Roedd tua 25,000 o aelodau Llafur Cymru yn cael bwrw pleidlais, tra bod gan tua 150,000 o bobl eraill yr hawl i bleidleisio trwy undebau llafur.
Fe gaeodd y bleidlais yn gynharach yn yr wythnos, a'r disgwyl oedd y byddai'r rhan fwyaf yn pleidleisio ar-lein.
Galw am etholiad
Yn ei araith yn dilyn ei fuddugoliaeth dywedodd Mr Drakeford ei fod eisiau i'r blaid Lafur barhau yn nhraddodiad sosialaidd ffigyrau fel Aneurin Bevan, Michael Foot a Rhodri Morgan.
Dywedodd y byddai Llafur Cymru yn gwneud "popeth i sicrhau bod llywodraeth Lafur yn San Steffan" i gydweithio gyda'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd fod yr ymgyrch arweinyddol wedi rhoi syniadau newydd i'r blaid am gyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
"Rydym yn benderfynol yn ein dyletswydd i sicrhau bod ein dyddiau mwyaf radical o'n blaenau ni," meddai.
Dywedodd y ddiweddarach fod yr ornest arweinyddol wedi bod yn gyfle i "ddod â'r blaid at ei gilydd eto" yn dilyn y "flwyddyn anodd" ers marwolaeth Carl Sargeant.
"Dyna'r dasg sydd wedi ei rhoi i mi ac rwy'n edrych ymlaen at fynd ati," meddai.
Dywedodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Mr Drakeford i "adeiladu cymdeithas decach".
Wrth longyfarch Mr Drakeford fodd bynnag, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies y dylai etholiad Cynulliad nawr gael ei gynnal.
"Mae gan Mark Drakeford fandad i arwain y blaid Lafur, ond does ganddo ddim mandad i arwain pobl Cymru," meddai.
Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod angen mwy ar Gymru "na newid arwynebol o arweinydd Llafur".
"Dyma hen wynebau yn cyflwyno hen syniadau i genedl sydd wedi hen symud yn ei blaen," meddai.
Fe wnaeth arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds alw ar Mr Drakeford i gefnogi refferendwm arall ar Brexit - rhywbeth na wnaeth Mr Drakeford wneud yn ddiamod yn ystod yr ymgyrch.
'Ceffyl blaen o'r cychwyn'
Mae Mr Drakeford, 64, yn cael ei ystyried fel gwleidydd o adain chwith y blaid Lafur, ac yn wleidyddol agosach at arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn.
Roedd wedi cael ei weld fel y ceffyl blaen o'r cychwyn, a hynny ar ôl sicrhau cefnogaeth mwy o ACau Llafur nag unrhyw un o'r ddau ymgeisydd arall.
Wrth lansio ei ymgyrch arweinyddol, dywedodd fod ei brofiad yn y cabinet "wedi ei baratoi cymaint ag sy'n bosib i wneud y swydd", a'i fod yn cynrychioli adain "radical, sosialaidd" y blaid.
Roedd ei faniffesto yn cynnwys galwad am wahardd ysmygu mewn canol trefi a dinasoedd, a gwneud cyswllt band eang cyflym yn orfodol ar gyfer cartrefi newydd.
Ond yn ystod yr ymgyrch arweinyddol bu'n rhaid iddo amddiffyn sylwadau a wnaeth am ynni niwclear, yn ogystal â honiadau nad oedd ganddo ddigon o "angerdd" am y swydd.
Cafodd hefyd ei feirniadu am beidio bod mor gryf ag yr oedd Mr Gething a Ms Morgan o blaid cynnal refferendwm arall ar Brexit.
Roedd Mr Drakeford yn gefnogol o benderfyniad y blaid i newid y system bleidleisio ar gyfer yr ornest arweinyddol i un-aelod-un-bleidlais.
Daeth Mr Drakeford, sy'n siarad Cymraeg, yn Aelod Cynulliad yn 2011 gan olynu'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan yn sedd Gorllewin Caerdydd.
Yn 2013 fe ymunodd â'r llywodraeth fel Ysgrifennydd Iechyd, cyn dod yn Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol yn 2016.
Cafodd ei enwi'n Wleidydd y Flwyddyn Cymru yn 2017, a hynny am "feistroli portffolio sylweddol" a delio â thrafodaethau Brexit a threthi newydd.
Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad bu'n ymgynghorydd arbennig i Mr Morgan, ac roedd hefyd yn gynghorydd sir yn Ne Morgannwg yn yr 980au a'r 1990au.
Yn enedigol o Sir Gaerfyrddin, graddiodd o Brifysgol Caint a Phrifysgol Caerwysg cyn gweithio fel athro a gweithiwr cymdeithasol.
Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod cyn dod yn Athro mewn Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Canlyniadau'r bleidlais yn llawn
Dyma oedd canlyniad rownd gyntaf y pleidleisio:
Mark Drakeford - 46.9%
Vaughan Gething - 30.8%
Eluned Morgan - 22.3%
Yn yr ail rownd, ar ôl ailddosbarthu pleidleisiau Eluned Morgan:
Mark Drakeford - 53.9%
Vaughan Gething - 41.4%
Diwrnod olaf ar 11 Rhagfyr
Cyhoeddodd Carwyn Jones ei fwriad i adael y swydd yng nghynhadledd Llafur Cymru ym mis Ebrill.
Bu'n arweinydd y blaid ac yn Brif Weinidog ers naw mlynedd.
Bydd yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd am y tro olaf ddydd Mawrth, 11 Rhagfyr, ac mae disgwyl iddo gyflwyno'i ymddiswyddiad i'r Frenhines yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.
Daw'r ymddiswyddiad i rym pan fydd y palas yn ateb, a'r tebygrwydd yw y bydd hynny ar yr un diwrnod.
Mae Mark Drakeford yn debygol o gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog, gan y Senedd ddydd Mercher, 12 Rhagfyr.
Y disgwyl yw y bydd dwy o'r gwrthbleidiau yn enwebu eu harweinydd nhw i'r swydd.
Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n enwebu Adam Price, tra bod llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw yn enwebu Paul Davies.
Er hynny, mae'n debyg mai Mr Drakeford fydd yn cael y swydd gan fod gan y blaid fwyafrif yn y Cynulliad gyda chefnogaeth y Democrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams a'r AC annibynnol yr Arglwydd Elis-Thomas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018