Ymestyn mechnïaeth rheolwr Cymru, Ryan Giggs

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfnod mechnïaeth rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, mewn cysylltiad â honiad o ymosod wedi ei ymestyn.

Ym mis Tachwedd, roedd adroddiadau papur newydd yn dweud ei fod wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad.

Ar y pryd, dywedodd ei gynrychiolwyr fod Giggs yn gwadu pob honiad o ymosodiad a wnaed yn ei erbyn.

Y llynedd, dywedodd yr heddlu bod dyn 46 oed wedi'i arestio a'i holi ar amheuaeth o niwed corfforol ac ymosodiad yn ymwneud â menyw yn ei 30au.

Roedd gan y ddynes fân anafiadau ond nid oedd angen unrhyw driniaeth arni.

Ddydd Gwener, cadarnhaodd yr heddlu bod mechnïaeth y dyn, sydd bellach yn 47 oed, wedi ei ymestyn hyd at 1 Mai.

Ychwanegodd llefarydd bod ffeil ar y mater yn parhau gan Wasanaeth Erlyn y Goron, a bod disgwyl penderfyniad maes o law.

Pynciau cysylltiedig