Ymgyrchwyr yn galw am achub y 'Versailles Cymreig'
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol hen blasty gwag sy'n cael ei alw'n y Versailles Cymreig mewn perygl os na fydd mwy'n cael ei wneud i'w achub, medd ymgyrchwyr.
Codwyd Neuadd Cinmel Hall, ger Abergele yn Sir Conwy, yn y 1870au, a'r gred yw taw dyma gartref gwledig mwyaf Cymru.
Dywed Cyfeillion Neuadd Cinmel bod angen camau gorfodaeth i atal yr adeilad rhag adfeilio.
Ond does dim angen y fath gamau, medd Cyngor Conwy, gan fod y perchennog ers 10 mlynedd, cwmni Acer Properties Ltd BVI, wedi gwneud addewid i wario ar waith atgyweirio.
'Mae'n drist'
Mae'r adeilad rhestredig Gradd I, sy'n ymdebygu i chateau Ffrengig, yn wag ers troad y ganrif.
"Mae unrhyw adeilad sy'n cael ei adael, i bob pwrpas yn wag am 20 mlynedd heb unrhyw un oddi mewn, heb unrhyw wres, yn rhwym o ddirywio," medd Tim Vincent, o Gyfeillion Neuadd Cinmel.
"Bu achosion o fandaliaeth. Mae rhywfaint o blwm wedi'i dynnu o'r to, a rhywfaint o'r trysorau wedi'u cymryd o'r tu mewn. Mae'n drist iawn."
Y teulu Hughes, a ddaeth yn gefnog trwy gloddio copr yn Amlwch, wnaeth godi'r neuadd a'r ardd a gafodd ei chreu gan y sawl a ddyluniodd Regent's Park, Llundain. Rhyw ddwy genhedlaeth fu'n byw yno, gan ddefnyddio'r tŷ yn unig
Cafodd yr adeilad ei osod ar brydles wedi hynny a'i ddefnyddio i sawl pwrpas drwy ran helaeth o'r 20fed Ganrif. Roedd yn gartref i Ysgol Genethod Clarendon am oddeutu 30 mlynedd, cyn i dân ddifrodi rhannau o'r neuadd yn 1975.
Camodd tad Mr Vincent, Eddie i'r adwy yn y 1980au, gan roi £2m o'i arian ei hun at adfer y safle gyda chymorth arian cyhoeddus.
"Roedd yna lawer o wirfoddolwyr o'r ardal leol wnaeth helpu gyda'r gwaith adfer," meddai.
"Cafodd hefyd tua £500,000 gan Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, rhagflaenydd CADW, felly mae Cymru wedi rhoi cryn fuddsoddiad i'r adeilad rhyfeddol yma."
Mae Cyfeillion Neuadd Cinmel yn dadlau bod angen cynllun manwl rŵan i atal yr adeilad rhag dirywiad parhaol.
Maen nhw'n amcangyfrif bod angen tua £1m dim ond i ddiogelu'r adeilad, a hyd at £30m i'w adfer fel bod modd ei ddefnyddio i dalu costau cynnal a chadw.
Mae'n debygol, maen nhw'n dweud, y bydd angen rhywfaint o arian cyhoeddus fel rhan o bartneriaeth yn cynnwys y perchnogion presennol, y cyngor a llywodraethau i sicrhau dyfodol y neuadd.
Ni fu'n bosib cysylltu ag Acer Properties, sydd wedi cofrestru yn Ynysoedd y Wyryf, ond mae Cyngor Conwy'n gorfodi rheolau gwarchod adeiladau rhestredig.
Dywedodd y cyngor: "Rydym mewn trafodaethau rheolaidd gyda'r perchnogion ac maen nhw yn y broses o drefnu gwaith atgyweirio.
"Ar y foment, mae'r perchnogion yn cymryd camau positif... ac er bod y mater dan adolygiad nid ydym yn ystyried bod camau gorfodaeth yn angenrheidiol ar hyn o bryd."
Mae cyflwr Neuadd Cinmel yn destun pryder i sawl arbenigwr cadwriaethol sydd hefyd yn dadlau bod angen gweithredu i achub y safle, gan gynnwys Peter Hare, fu'n rhaid o brosiect adfer Castell Windsor wedi tân 1994.
Dywedodd fod Neuadd Cinmel ymhlith y 10 adeilad Fictoraidd sydd fwyaf dan fygythiad drwy'r DU.
"Mae cost ei adfer yn codi'n gyson," meddai. "Po hiraf iddo gael ei adael, po fwyaf mae'r adeiladwaith yn cael ei ddinistrio a lleia'n byd sy'n weddill. Mae'n ofnadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021